Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL.^ Rhif 735.] GORPHENAF, 1904. [Cyf. LXII. GWANWYN A CHAN. (1.) Mae'r gàg yn ymadael, cyn sangu 0 droed Dadfeiliad a gauaf, ar gangau y coed. Hawdd canu tra'r gwanwyn mewn dillad gwyrdd Yn agor y beddau hyd ymyl y ffyrdd. Mae cân yn naturiol wrrth siglo y cryd— A " chychwyn " a " thyfu " yn fìwsig i gyd. (11.) Pe meddwn adenydd ehedwn 0 hyd Yng nghwmni y gwanwyn 0 gwmpas y byd: A'r bedd a agorai efe yn mhob man, Rhown innau fy nhelyn mewn tôn ar ei làn. Hawdd canu tra pobpeth yn myn'd ar ei well— Tra bywyd yn agos ac angau yn mhell. (iii.) Mi wn, dyner Geidwad, fod aml i dant Er's amser yn fudan—yn nhelyn y sant. Ond eled diwygiad yn drwm dros y byd A chlywi'r hen dannau yn canu i gyd. Ehoed nefoedd y gwanwyn—rho'wn ninnau y gân, Mi ro'wn ni yr allor—os rhoi Di y tân. Rhys J. Huws. _—f