Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL,^ Rhif 731.] MAWRTH, 1904. [Cyf. LXII. EIRA A CHAN. Canai Eobin Groch ei alaw, Fore'n ol, ar oerllyd hîn; Yr oedd eira ar ei bluen, Cryndod anwyd ar ei fin. Diolch, ganwr bach y gauaf— Onid hwn yw'r canu drud? Pan bo'r haf yn llond y llwyni Cheir yr un aderyn mud. 11. Pa sawl telyn sydd mewn cywair Dymor eira, dymor gwlaw ? Oni chrogir y telynau Pan mae'r hâf yn cilio draw ? Cenais lawer tro, fy hunan, Dan gysgodion fíawd a bri; Ond pan ddeuai siom ac adfyd Torrid tannau'm telyn i. 111. Os, fel edrydd yr ystori— Mai ar fynydd Calfari, Cefaist ti dy gochi, Eobin, Hawdd esbonio'th fiwsig di. Wedi Awr yr Ing dywynnu, Cenir yn y niwl a'r glyn ; Bu pob un a gân mewn eira, Eywbryd'ar Gralfaria fryn. Rhys J. Huws.