Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y CRON ICL.A Rhif 730.] CHWEFROR, 1904. [Cyf. LXII. ét Y eronicl " yn 60 oed. Hawddamor i wron chwe' deng mlwydd o oedran ! Hwre ! i dywysog misolion y wlad; Y oyntaf ddaeth allan i frwydrau'r gwirionedd, A'r olaf i gefnu ar feusydd y gâd. Bu orochfloedd ei udgorn yn deffro y genedl, Yn enw gwirionedd diweiniodd ei gledd; G-ormeswyr a grynent yn swn ei fagnelau; A gwelodd gamwri yn syrthio i'r bedd. Gwasgarodd oleuni gwybodaeth wleidyddol I gyrau annghysbell pob mynydd a chwm, A'r bobl a'i hedmygent fel pleidiwr gwirionedd, Ar ben anghyfìawnder ergydiai yn drwm; Bu'n dadleu iawnderau y " werin a'r miloedd," I bleidio cyfiawnder cyfododd ei lais, Tywalltodd hyawdledd yn ffrydiau eiriasboeth I ysu yn ulw bob gormes a thrais. Mae eto ormeswyr yn Nghymru anwylaf, Mae eto fwystfìlodd i'w gyru i'w ffau ! Arfoged y Cronicl i frwydrau'r dyfodol I bleidio y gwir, a gorchfygu y gau : Gosoded ei wyneb yn erbyn pob traha, Llefared pob oracl yn groew a hyf, Ymladded nes cael Ymreolàeth i Gymru ! Arhöed ei fwa yn iraidd a chryf. Portland, Oregon. Mawddwy.