Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-s-Y CRONICL.Ä. RhìV%729.] IONAWR, 1904. [Cyf. LXII. Paham ? Bu farw Ben Bowen, Pwy wyr paham ? Mae cenedl synllyd yn wylo, Eyfedded gwePd bardd yn disgyn i'r bedd A thelyn mor bêr yn ei ddwylo. ii. Paham bu Eluned* yn dwyn ei chroes, A hithau mor hoffus o'i thegan ? Paham, wrth gyhoeddi Croes ei Dduw, Bu ei thad dan ei groes ei hunan ? in. Paham, Facedonia, y colli'th waed, A thithau yn ffyddlon i'r Iesu ? Ac Ewrob wrth ganu am Waed y Groes Mewn gormod o hwyl i dy helpu! IV. P'am mae'r annuwiol mor uchel ei lef— Ai am fod y Nefoedd yn fyddar ? Paham y parlysir prophwydi Duw— A'u heisieu mor fawr ar y ddaear ? v. Paham mae'r tylawd mor gyfyng ei fyd, A'r Duw a addola mor dirion ? P'am na ddadweiniai Cyfìawnder ei gledd Ac arfau gormeswyr mor greulon ? VI. Ddyeithred yw marw ! ddyeithred, byw ! Cwestiynau yw y cryd a'r beddrod, Atebion yw yr Ysbrydolfyd pell Ac atẃiad yw bywyd uchod. Rhys j. Huws. Geneth fach y Parch. W. Puri Huws, B.D., yr hon sydd bellach yn y nef.