Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

&.Ÿ CRONICL.^ Rhif 728.] RHAGFYR, 1903. [Cyf. LXI. A..... \ FY MAI. i. Mae llaw y byd yn arw, A Uaw y sant yn drom I rwymo'r galon ysig Sy'n gwaedu dan ei siom. Ond gwn am un cyffyrddiad AU drin y fynwes drist, Mae'n ysgafn ac yn dyner— Cyffyrddiad Iesu Grist. ii. Mi deimlais law y gelyn > Yn disgyn ar fy mriw, s G-an daro'n anystyriol Yn enw deddf ei Dduw : Ond teimlais ddwylaw Rhywun ' Yn esmwythau fy nghur, ' A'u hadwaen wnes yn union Wrth ôl yr hoelion dur. iii. Wrth grwydro'r anial dyrus Dan glwyfau a thàn staen, Sawl un fu'n ceisio'm llethu, A'm hatal yn y blaen ! Mi deimlais bwys ergydion Ac aml orig drist; Ond gwelais ddau yn maddeu— Fy mam ac Iesu G-rist. Rhys J. Huws. \ ^_^ ¥