Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

J^Y CRONICL,^ RHir 727.] TACHWEDD, 1903. [Cyf. LXI. Bedd y Dyn Tlawd. Is yr ywen ddu ganghenog Twmpath gwyrddlas gwyd ei ben, Fel i dderbyn 0 goronog Addurniadau gwlith y nen; Llawer troed yn anystyriol Yn ei fathru'n fynyoh gawd, G-an ysigo'i laswellt siriol,— Dyma fedd y dyn tylawd. Swyddwyr cyflog gweithdy'r Undeb A'i hebryngodd ef i'w fedd; Wrth droi'r briddell ar ei wyneb Nid oedd deigryn ar un wedd; 'Nol hir frwydro a thraíîerthion, Daeth i ben ei ingol rawd, Noddfa dawel rhag anghenion, Ydyw'r bedd i'r dyn tylawd. Mae'r gareg arw a'r ddwy lythyren Dorodd rhyw anghelfydd law, G-yd-chwareuai ag e'n fachgen Wedi hollti'n ddwy gerllaw; A phan ddelo Sul y blodau Ni fydd yno gâr na brawd Yn rhoi gwyrdd-ddail a phwysiau Ar lwm fedd y dyn tylawd. Ar sedd fynor nid yw'r awen Yn galaru uwch ei lwch, A chyn hir trwy'r las dywarchen Aradr amser dỳn ei swch— Un â'r llawr fydd yr orphwysfa, Anghof drosti dŷn ei hawd; Ond er hyny angel wylia Ddaear bedd y dyn tylawd. Ioan Emlyn.