Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

J5L.Y CRONICL.^ Rhif 726.] HYDREF, 1903. [Cyf. LXI. Medel a Bedd. (Cyflwynedig i Mr. a. Mrs Thomas, Tyddynyberth, Bethel). Wrth geisio medi'r gwenith gwŷn Fy llaw a grỳn eleni— Nid amser, ond gofidiau fu, Yn gwthio'r cryndod iddi. Fu sua'r awel dros y maes, A thry yr ŷd yn delyn; Ond trist yw medi'r gwenith gwŷn Dan gysgod bedd fy mhlentyn. 11. Mae glâs y nef uwchben yr ŷd, A gwyrdd y byd o tano, A dwndwr diolch leinw'r wlad, Wrth fwrw'r cryman iddo. Ond gwn maddeua Duw i mi Am fod yn fud eleni— Fel rhywun arall yn y Llan Sy'n ddystaw adeg medi! iii. Ystormydd Hydref yn y màn I'r Llan a grwydrant eto, A thaflant lawer deilen wyw I'r lle mae John yn huno. Ond daw y Gwanwyn wedi hyn A bywyd Jon'd ei ddwylo, Ac wrth ei wel'd yn trwsio'r bedd Fy fíydd wêl fore'r deffro. Rhys J. Huws.