Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL.^ Rhif 724.] AWST, 1903. [Cyf. LXI. 0, Bantycelyn, Salmydd melus Cymru, Mor adnabyddus w yt yn uffern obry! Tydi yw prif-fardd Cymry collfarnedig; Sawl enaid sydd â'th hymnau bendigedig Yn llosgi yn ei gôf! Os rhaid fy namnio, Rhyw ias o wynfyd fyddai dy anghofio— Anghofio dau—wynebwn uffern wed'yn, Fy Iesu Grist a Williams, Pantycelyn! 11. Y ddaear a heneiddia fel dilledyn— Bydd Duw ryw ddydd yn Uosgi darn o'i waith; Ond losgir mo emynau Pantycelyn, Heneiddir mo'u gwirionedd pur ychwaith. Hwy allant fyw am byth niewn enaid marw, A rhodio'n rhydd yng nghanol uffern dân, Ac wedi dàl ystormydd anial garw, Hwy ddaliant hefyd oleu'r Wynfa lân. Rhys J. Huws.