Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-S.Y CRONICL.^ Rhif 723.] GORPHENAF, 1903. [Cyf. LXI. Y Gymraeg. 1. Ni gadwn yr hên Gymraeg yn fyw Er mwyn y delyn, ac er mwyn Duw; Mor bêr ei sain wrth ddilyn y tant, Mor felus ei llef yng ngweddi'r sant ! 11. Ni gadwn yr hên G-ymraeg yn fyw, Er mwyn LAywelyn, ein holaf Lyw ; Tra'n gwaed yn gynes, fel gwaed Glyndŵ^, Siaradwn G-ymraeg tra rhedo dŵr. iii. Ni gadwn yr hên Gymraeg yn fyw, Er mwyn y oryd, ac er mwyn yr ŷw ; Felused yw hi i hwian hedd, Mor lleddf i'w thrydar ar làn y bedd! IV. Ni gadwn yr hên Gymraeg yn fyw Tra caro aderyn lwyni Duw; Cyn collo'r hen iaith ei swyn a'i bri Fe sieryd mynyddoedd mudion hi. Ehys J. Hüws.