Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y CRONICL.^ Rhif 722.] MEHEFIN, 1903. [Cyf. LXI. Nyth a Thelyn. (Cyflwynedig i Mr. a Mrs Gruffydd, Gorphwysfa, Bethel.) I. Canai deryn bach penfelyn, Heddyw yn y glaslŵyn îr, Nid oedd cwmwl ar y wybren Nid oedd barug ar y tir. Hawdd oedd i'r aderyn ganu Ddechreu Mai, o dan y gwlith, G-yda'i deulu bach yn gyfan— Cân y delyn fel bo'r nyth. 11. Gwd am dỳ lle nad oes canu Heddyw er ei bod yn Fai,— Am nad yw y nyth yn gyfan Tannau'r deiyn sydd yn llai. Hedodd ysbryd ieuanc, llednais Dros y nyth a thraws y glyn— Y mae hwnw'n dàl i ganu, Wylo sydd yr ochr hyn. iii. Hawdd i'r nef yw dàl i ganu, Nid oes yno gysgod bedd ; Hawdd i'r delyn gadw'r cywair Tra y ceidw'r galon hedçl. Ie, hawdd fydd canu yno, Ond mor anodd yn y byd Dal i ganu, pan mae eisieu Trwsio'r delyn fach o hyd! Mai iafj 1903. Rhys J. Huws.