Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

J^Y CRONICL.A Rhif 72i,,] MAI, 1903. [Cyf. LXI. Miwsig y Groes. i. Dan ganu ám Galfaria Y treuliais fore oes— Fe dynai mam a minau Y gan i gyd o'r Groes. Mae hawl gan fam i ganu Mewn hwyl am Gralfari, Am fod cynghanedd aberth Yn llon'd ei bywyd hi. ii. Os wyf am ddal i ganu Am aberth Mab y Dyn, Mae'n bryd i'm bellach feddu Calfaria bach fy hun. Y gwr sy'n dringo'r mynydd, A'i ysgwydd dan y Groes, Yw'r hwn fedd hawl i ganu Am " ddwyfol farwol loes." m. Mae rhai yn colli'r canu Yn sŵn y " tonnog li"; Ond chollodd neb mohono Fu'n dringo Calfari. Nid oes ond un cyweirnod I fiwsig Duw i gyd, A cholla gŵr y croesbren Mo'i gân wrth newid byd. Ehys J. Huws.