Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(O Y CRONICL,^ R.HIF 720.] EBRILL, 1903. [Cyf. LXI. Seren Heddwch. Seren heddwch ! i'r crwydredig Hyfryd yw goleuni hon : 0, siriola'r morwr unig Draw ar y dòn. Seren fíydd ! pan ballo'i hyder, Pan y llwyr ddiffygio'i fron Dod i'w fynwes nefol gryfder, Draw ar y dòn. Seren ddwyfol! arwain beilach, Dwg y crwydryn adre'n llon : Profwyd ef yn gyfìawn mwyach Draw ar y dòn Seren gobaith ! 0 ! llewyrcha Ar y noson olaf hon, Nes^y try'n dragwyddol hindda Draw ar y dòn. Islwyn.