Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y CRONICL.^. Rhif 713.] MEDI, 1902. [Cyf. LX. Coroniad lorwerth Vll. NEILLDUASOM ddalen gyntaf dau rifyn o'r Cronicl i draethu hanes salwch, ac adferiad, y Brenhin, ac yn awrar y drydedd ddalen gyntaf yr ydym yn gallu cyhoeddi fod y Coroniad wedi cymeryd lle dydd Sadwrn, Awst gfed, 1902. Nid oedd i ni, fel Ymneillduwyr, ran na chyfran yn ngwasanaeth y coroni. Clerigwyr perthynol i Eglwys Loegr yn unig oedd y rhai a gymerasant ran yn y ddefod. Profodd felly mor agos yw cysylltiad yr Eglwys hono a'r Wladwriaeth. Nid oedd y coroniad yn un cenedlaefhol, oherwydd i elfen mor bwysig ag Ym- neillduaeth Brydain gael ei chau allan yn hollol. Nerth y gertedl yw'r An- nghydffurfwyr, ac eto cael eu gwahodd fel edrychwyr yn unig a ddarfu i gyn- rychiolwyr yr Anghydífurfwyr. Wrth gymeryd ei lŵ, tyngodd y Brenhin y cynhaliai y Grefydd Ddiwygedig Bro- testanaidd, sydd wedi ei sefydlu drwy Ddeddf a Sefydliad Eglwys Loegr. Gwnaeth ei fam ddatganiad cyffelyb mewn perthynas â'r Eglwys Sefydledig yr îwerddon, pan goronwyd hi, ond gwyddom oll beth a ddigwyddodd yn 1S69, pán ddadgysylltwyd yr eglwÿs hono. GorcHwyÌ sy'n aros y Brenhìn lorwerth VII. yw Dadgysylltiad a Dadwaddoliad Eglwys Loegr; ac iawn- der â'i ddeiliaid Ymneillduòl fyddai i'r wlad ei awdurdodi yrí fuàri i wneud hyny. Serch na cháfodd Ymneilíduaeth ran yn y Coroniad, yr oedd pob. Ymneilldu- wr oedd wedi gweddio am. adferiad iechyd y Brénhin, yn falch iddo gaeî; nerth i weid ý goron a'r orsedd y^n ei feddiant. Wrth ddíolch àrh y cydym- deimlad a amlygwyd âg ef yn ei" gystudd, datganodd y BTenhin ei ddyled i weddiau eu bobl. Dywedodd: '' Gwr-i andawyd gweddiau fy mhobl, ac ÿn> awr offrymaf ddiolchgarwch i Raglun-' iaeth Ddwyfol am arbed fy myẅyd a rhoi nerth i mi i gyflawni y dyledswydd- au pwysig a orphwysant arnaf fel Pen coronog yr Ymherodraeth fawr hon." Dangosodd y Brenhin ei ddiolchgarwch nid ar air yn unig, ond mewn gweithred hefyd. Rhoes dros gan mil o bunau a gasglwyd i'r Ysbyttai yn Llundain, a rhydd Osborne House at wasanaeth y genedl. ...... 'i