Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y CRONÌCL.À Rhif 712.] AWST, 1902. [Cyf. LX. Y Brenhin lorwêrth VII. YR oeddym ar fìn myn'd i'r Wasg y mis diweddaf pan gyhoedd- wyd hanes gwaeledd peryglus y Brenhin. Llwyddasom i roi ychydig fanylion byrion yn Nghronic/ Gorphen- af. Erbyn hyn dy wed y meddygon fod ei Fawrhydi allan o ber}rgl, a gobeithir na ddaw dim eto i rwystro ei goroni Awst çfed. Diau y dylem osod yr amgylch- iadau hyn at ein calon, a dysgu'r wers amlwg a gynwysir ynddynt. Bydd i'r Brenhin ei hun ddysgu bellach fod iechyd a bywyd yn ansicr iawn, ac mai dyn sy'n meddu ffydd yn unig ddichon fod yn gryf a sefydlog, ac yn nifrifwch ei waeledd gobeithiwn iddo gael help i edifarhau. Ysgydodd gwaeledd y Brenhin y genedl drwyddi. Can lleied o rwysg y byd fedr sefyll. Nis gall cenedl fod yn gref ond i'r graddau y mae'n cashau y peth- au a gasheir gan Dduw. A yw'r bobl wedi cashau diodta, bedr elwa, a hap chwaieu ? Gallwn fforddio gohirio cor- oni'n Brenhin os dysgasom hyn. Beth a gollasom ysy waeth ? Swn magnelau, chwifio banerau, a rhwysg a phomp gwag! Nid yw milwyr na gwyr meirch,'tywysogion, na llysgenhadon,yn gwneud cenedl yn gref ? Pwy yw as- gwrn cefn gwlad ? Onid y glowyr, y mwnwyr, y chwarelwyr, y crefftwyr, y morwyr, yr amaethwyr, y cerddorioríj y beirdd, y darganfyddwyr, yr athraw,- on ? Pwý oedd i gael gwel'd y córoni ? Y dyn a'r logell drom ! Faint 0 gólled gadd y werin ? Dim. Gogoniant dynion oedd amcan penaf y coro'ni. Ond daeth Duw i'r adwy a thrwy ber- yglu bywydy Brenhin dysgpdd Brydain oedd wedi ruddo tywod Affricaa gwaed, werth y bywyd dynol, cysegredigrv\'ydd dioddef, a difrifwch einioes. Diolch i Canon Hicks a Dr. Mc. Laren am siarad mor gryf o'r pwlpud yn yr ar- gyfwng hwn. Cawsom ergyd drom i'n balchder yn wythnosau salwch y teyrn. Yr oeddym mewn perygl fel cenedì o anwybyddu pob peth ond gallu'r cledd, enill tir a chasglu cyfoeth, ac yr oedd eisieu i ni gofio'r geiriau " Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder Ef." Dylai pawb o honom edrych ati a gwneud ein goreu yn bersonol i ddwyn Brydain yn eiddo i'r Iesu. Mae llawer pwnc pwy^ig i'n bodolaeth fel cenedl eisieu ei benderfynu. Trown gan hyny at y gwir Frenhin tragwyddol, anwel- anweledig, digjrfnewid, ac wedi ein gwneud yn ddeiliaid ei deyrnas Ef, byddwn byw yn sobr ac yn gyfiawn ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awr hon.