Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ät-Y CRONICL.^ Rhif 711] GORPHENAF, 1902. [Cyf. LX. Y Brenhin lorwerth VII. TAFLWYD Brydäin a'r Byd i fraw un o'r gloch dydd Mawrth, Mehefin ^ain, pan gyhoeddẃyd y byddai raid gohirio Coróniad y Brenhin. Yn mhen dwy awr wed'yn cafodd y cÿhoedd wybod fod ei Fawrhydi yn beryglus glaî ác wedi gorfod myn'do dän gyllell y llaw-feddyg. O hyny hyd heddyw, sef y dýdd olaf o Mehefin, mae y wläd yn mhair pryder. Gwir fod pob medr meddygoí, a gofal, at alwad y Brenhin, a chafodd yn y llaw-feddyg. Syr Frederick Treves y <ìyn galluocaf yn y deyrnas i weini arno. Eto yr oedd nätur yr anHwylder y faí'h fel ag i beri ofn cyffredinol rhag i'r diwedd dd'od yn ddisymwth.' Enw anhwylder y Brenhin yw perityphlitis, neu mewn geiriau eglurach, enyniad perfeddyn cauedig yn yr ymysgaroedd. Gelwir yr anhwylder weithiau yn aỳỳendicitis, a thra y mae'r aŷpendix yh wasanaethgar i rai o'r anifeiliaid isaf, mae'n ffyn- honell o berygl i ddyn yn aml, Math o bibell gul ydyw at íaint cwilsyn gwydd ac o un i bum' modfédd neu chwech o hyd. Weithiau aifî ceryg eirin a phethau celyd eraill iddo, ac oherwydd hyn y gwaharddir plant i lyncu ceryg ffrwythau, rhag ei enynu. Mae'n wir mai anfynych y caed pethau o'.r fath ynddo, ond ■ceir ynddo weithiau fwyd heb ei gnoi, neu fath o sialc wedi ffurfio am ronynau mân o fater. Cyn i Arglwydd Lister ddarganfod y defnydd ellir wneud o gyfferi gwrth-bydrol (antiseptic) buasai gwella yr anhwylder..hwn bron yn anmhosibl, -oblegid buasai agor yr ymysgaroedd â chyllell yn .beryglus iawn. Daeth y Brenhin drwy yr oruchwyliaeth yn llwyddianus : torwyd ploryn mawr i ffwrdd, a chaed llawer iawn o fater allan, a theimlodd y claf yn esmwythach er fod y briw yn peri poen iddo. Cyhoeddir hanes dyddiol sefyllfa iechyd y claf yn y Llythyrdai drwyy Deyrnas, a gweddia pawb am iddo gael llwyr adferiad, ond gwyddis y cyrner amser i ddwyn hyny oddiamgylch. Nid oes wybodaeth pa fodd yr achos- Wyd y salwch. Yr ydym oll yn agored i gyffelyb ymosodiad. Yn wir mae'n fwy cyffredin nag y tybiasom ar y cyntaf, a dioddefa hen ac ieuanc oddiwrtho, ond fod yr hen yn colli'r dydd yn amlach tano. Parodd gwaeledd y Pen Coronog ddyryswch mawr a dywedir mai y geiriau cyntaf a lefarodd pan ddaeth ato ei hun ar ol y driniaeth oedd, " Ni faddeua fy mhobl byth i mi am hyn." Ond "nid eiddo gwr ei ffordd." Nis gall y Brenhin mwy na'r cardotyn gadw anhunedd nac angau draw. Hwyrach mai da wedi'r cyfan oedd i ni gael ein hadgofio—er mewn modd poenus iawn—mai ansicr ryfeddol yw bywyd Collodd y wlàd filoedd o bunau, a siomwyd cannoedd o bobl, ond os dysgasom y gwirionedd mawr, "Am hyny byddwch chwithau barod," nid yn ofer y dioddefwyd.