Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL,^ Rhif 710.] MEHEFIN, 1902. [Cyf. LX. Hwnt ac Yma. Gan EYNON. Cyrddau |Vlai. WRTH reswm Cyrddau Mai sydd yn myned a sylw y byd c'ref- yddol ddechreu yr haf bob blwyddyn. Y mae amryw bethau yn peri eu bod yn tynu sylw anghyffredin eleni. Dyma flwyddyn fawr derfynol y cronfëyddd enwadol. Cronfa fawr y Wesleyaid gododd yr awydd ynom fel enwadau bob un i godi cronfëydd cyffelyb. Wrth gasglu prês, anhawdd peidio meddwl am y ddwy linell:— " Hawdd yw dwedyd : ' Dacw'r Wyddfa' " ! " Nid eir drosti, ond yn ara'." Hawdd gaíw am "gronfa" ond nid mor rhwydd yw galw ceiniogau at eu gilydd. # # Y Wesleyaid. Mr. Robert Perks, A.S., ddechreuodd sôn am godi miliwn o bunau oddiwrth y Wesleyaid. Mab i Weinidog Wesley- aid yw Mr. Perks, ac y mae wedi bod yn llwyddianus iawn fel cyfreithiwr. Mae efe a Syr Henry Fowler yn ae od- au o'r \xxx ýirm. Cafodc1 lawer ? ẁrth- wynebiad gan " hen 'nagtâá" ei en- wad—o'r ddau ryw—ond nid yw Mr. Perks yn cymeryd ei orchfygu yn rhwydd ; ac os nad yw y miî-o-filoedd wedi eu cael hyd y ffyrliug eithaf, y maent yn lled agos at y marc, ac y mae y Wesleyaid wedi gwneud yn ardder- chog. Wrlh reswm y mae ^hai o'r sef- ydliadau ereill wedi eu newyuu ryw- faìnt wrth gasglu y miliwn, ond yr oedd hynny yn anocheladwy. Y TrochWyr. Dywedaf Trochwyr nid mewn un ysbryd cecrus. Buasai dweyd " Bed- yddwyr" yn haner cyfaddefiad nad yw taenellu yn fedydd, ac mai dim ond trochi sydd yn fedyddio iawn. Y mae genyf gyfrol ar y silff yma yn dwyn yr enw "Y Pwlpud Bedyddiedig yn Nghymru." Afuerioedenw moranffodus ar lyfr ? Wel nid anelodd y Trochwyr ond at rhyw chwarter miliwn, ac y mae y ddau gant a haner o filoedd wedi eu haddaw ! ac y mae addaw yn Eglwysi Rhyddion Lloegr a Chymru yn gyfystyr a " thalu lawr." Cyfarfod cynhyrfus oedd hwnw pan oedd Mr. Shakespere — ysgrifenydd yr enwad—yn sefyll i fyny i adrodd ei stori, a phan gyhoeddodd ar derfyn ei araeth, eu bod wedi cyrhaedd y lan ! Ar darawiad amrant dacw ryw- un yn taro " I Dad y trugareddau i gyd " a chanwyd hi gyda hwyl i'w ryfeddu. Priodol iawn. * * Yr Annibynwyr. Creadur anystywallt yw yr Annibyn- wr. Mor hoff o'i ffordd ei hun, ac os bydd rhywun mewn byd neu Eglwys yn ceisio cyfyngu ar ei ryddid, gwae i'r pechadur hwnw. Mae'r Wesleyaid fel byddin o fìlwyr wedi eu trefnu yn ber- ffaîth, ac os bydd corn yr cnwad yn canu, maie'r holl fìlwyr yn symud fel un gwr. Mae yna rywbeíh i'w ddweyd o blaid hyn hefyd, oblegid " Mewn undeb mae nerth." Yn ein henwad ni, nid