Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-• '.- Y CRONICL.^ Rhif 708.] EBRILL, 1902. [Cyf. LX. Hwnt ac Yma. \é Gan EYNON. Yr Eglwys Rydd. YN Bradford y cynaliwyd y cyrddau Blynyddol eleni ac fe addefìr yn bur gyffredin er mor llwydd-. ianus o^ddent, na chyrhaeddwyd y marc anghyffredin o uchel a gyrhaedd- wyd yn Caerdydd y llynedd. Dichon fod hyny yn anmhosibl. Mae pobl Yorlcshire yn rhai selog a chalonog, ond nid oes ynddynt gymainto'r gwres hwnw sy'n cael ei adnabodgan bawb ymhob man fel "'tan Cymreig." Tân Seisnig ydyw. Heblaw hyny, nid oedd yr un Parlcer yn bresenol yn Brad- ford. Mae Parker nid yn unig yn bregethwr digyffelyb ond y mae yn un o " olygfeydd " yr oes. Nid oes neb Ymneillduwr selog yn meddwl am dro i Lundain, heb chwilio am ddau o'n rhyfeddodau. Capel Spurgeon ydyw un, clywed Dr. Parker yw y lla.ll. Fe addefìr hefyd er fod Dr. Townsend (o'r Eglwys Rydd Fethodistaidd) o Prestatyn, yn ddyn da, nad oedd yn gymaint o atdyniad a Mr. Greenhough fel Cadeirydd. # # Cyrddau Bradford, &c. Yn ol yr hanes ni chafwyd dim mor wefreiddiol yn Bradford ag a gafwyd gan Mr. Jowett yn Caerdydd. Caf- wyd er hyny wythnos fendithiol mewn llawer modd. Cafwyd pregethu bob dydd. Arwydd dda yw fod y Sai^ yn dod yn nes at y Çyrnro yny ffordd o, roddi gwerth ar gyhoeddi yr Efengyl. Ymhlith y pregethwyr, yr oedd Dr. Robertson Nicoll, Mr. Sylvester Horne, heblaw 11 u mawr o bregethwyr Cenadol fel Gypsy Smith, y rhai a anfonid allan i roddi'r dref ar dân. Gan nad beth oedd y canlyniadau uniongyrchol, da genym oll fod efengylu i'r werin a'r miloedd yn cael lle amlwg, ac addefedig yn nhrefnlen y Cynghrair. Perygl y mudiad newydd ar hyn o bryd yw iddo fyned yn rhy Wesleyaidd—y mân en- wadau Wesleyaidd fel y Bible Chris- tians, a'r United Methodist Free Church, a'r Primithes, a'r------ond beth dâl manylu ? Y maent yn llu mawr. Y mae pob adran fechan o honynt yn cael 11 e llawn mor amlwg a'r hen bedwär enwad lluosog. Rhaid cadw llygad ar y graig hon, ac y mae yn ddiameu y gwneir, am fod pob awydd yn yr arweinwyr am wneyd chwareu teg. # # Y Gyffesgell. Mae íí Bord Gron " Esgob Llundain newydd gyhoeddi adroddiad pwysig iawn yr wythnos hon ar fater cyffesu pechodau yn Eglwys Loegr. Galwodd Esgob Llundain rhyw 15 o wahanol fathau o dduwinyddion—uchel—isel— llydan ac efallai cul—ät eu gilydd dro yn ol i wyntyllu y pwnc sydd yn haner pabeiddio Eglwys Loegr heddyw, sef y pwnc o fyned at y person i mofyn maddeuant peehodau. Gwneir hyn yn y dirgel gan ganoedd os nad miloedd