Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'■ '■' ,-■' ', -• ^Y GR0NIGL, Rhif 707.] MAWRTH. 1902. [Cyf. LX. Hwnt ac Yma. G«n EYNON. Coroni ChcMberliia. MAE llawer tro ar fyd ac eglw\\s y.n cymeryd. lle o fewn mis o amser, ac nid y\v y mis diwedd- af yma wedi bod heb ei ddifçwyddiadau pwysig. Am y rhyfel anorffen yn Ne- heudir Affric y mae yn myned ymlaen ar ei waedlyd hynt fel arfer a'r hen Shon Bentarw yn talu'r bill yn ol pym- theg can mil yr wythnos. Dyrnaid o ffermwyr— ebe'r jingoes—oedd y Boer- iaid, ac nid oedd eisiau ond i'r Llew Prydeinig ysgwyd ei gynffon—heb son am ruo—er gyru pob Boer i'w dwll. Ond nid yw De Wet wedi ei ddal eto— ac nid oes fawr obaith y delir ef yn fyw. Yn sicr hwn yw milwr pena'r oes. Tra mae Prydain yn gwneyd ffwl o honi ei hun yn Affrica, a'r Iuddewon Ger- manaidd yn pocedu tunelli o aur melyn o'r contracts rhyfel y mae dinas Llun- dain yn dodi coron ar ben Chamberlain eilun-dduw—Brummagfem ! # # Anibyniaeih Unedig. Yn yr enwad Annibynol y pwnc mawr ar hyn o bryd yw " Yr Eglwrs Annibynol Unedig." Rhaid addef fod Annibyniaeth yn Nghymru yn gweithio yn well nag yn Lloegr. Y mae'r Cym- ru yn cydio yn well yn y system, ac yn ei gweithio allan yn ardderchog. Ond y« Lloegr ynghanol dinasoedd mawrion lle nâd yw y Werin yn malio bötwm corn am bethau crefyddol, y mae yr hen beiriant ardderchog mewn angen re- pairs. Nid yw Dr. Parlcer yn anelu at ladd Annibyniaeth yr- tfh eglwys o ran ei bywyd mewrìöl. Ei blê ydyw, ei bod yn bryd cael cydweithrediad mwy effeithiol rhwng yr holl eglwysi, pan yn ymaflyd mewn gwaith cj^ffredinol. Dyma ni yn ffoi o'r dinaspedd, ac yn rhedeg ar ol pobl well-to-do i gyfeirẁad y maesdrefi gan adael y tlodion i drengu, heb wybodaeth. Ein dadl yw, os yw; Wesleyaeth yn llwyddo mewnpeth felly, paham nad all Annibyniaeth Iwyddo ? Ar hyn o bryd aflwyddo yr ydym, ac y mae yn hen hen bryd i ddyfeisio rhyw gynllun i wneyd Arnibyniaeth yn fwyo allu achubol yn y wlad ! # # R«oobory a Banneraiaa. Gobeithiem erbyn hyn weled Rose- bery a Bannerman yn ysgwyd dwylaw ac yn anghofio yr hen gynhenau. Dau Scotchman ydynt, ac y mae yn bur an- hawdd tynu dau Scotyn at eu gilydd ar ol bod "ar faes." Am bum mlynedd eistedd ar y clawdd y bu Rosebery. Y mae ynddo ddigon o allu athalent, ae y mae ganddo syniadau clir a th^g ar brif faterion y dydd, ond paham y darfu iddo droi cefn yn nydd y frwydr ? Gwyr pawb mai hen gynen bersonol rhyngddo ef a Sir Wm. Harcourt sydd wrth wraidí4 y cyfan oll. Erbyn hyn y mae Harcourt yn cilio i'r cefn—sibrydir ÿ gwneir ef yn lord pán daw'r adeg y coronir Brenin—a Sir H. Campbell-Ban- nerman sydd yn yr adwy. Y mae wedi