Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

£*Y CRONICL,, Rhif 706.] CHWEFROR, 1902. [Cyf. LX. Hwnt ac Yma. Oan EYNON. Y Cronicl. ODAN y penawd hwn, r'wn hyderu bob mis " dal pen rheswm " efo darllenwyr goleuedig yr hen Gronicl enwog. Diolch i Keinion am ei gadw yn fyw. Nid am nad oes digon o waith arall genyf wrth law yr wyf yn cy- meryd y gwaith hwn arnaf, ond teimlad cryf fod y Cronicl a chanddo neges at yr oes hon, fel y bu ganddo yn nyddiau " bechgyn Llanbrynmair " at ddiwyg- wyr yr oes o'r blaen. Heblaw hyn, teimlwn ei bod yn shabby, gadael y baich ymron yn gyfangwbl ar gefn llydan fy anwyl gyfaill o Porth Dinor- wig. Mae yr enwad Annibynol—heb son am achos y gwirionerld mewn byd ac eglwys—o dan rwymau anfesurol iddo am ei waitli ardderchog fel Gol- ygydd. Caffed lawer blwyddyn faith eto i helpu "cario'r maen i'r wal." # # Penawd Newydd. Gwelir fy mod yn ysgrifenu heddyw ö dan benawd newydd. Yr oeddwn yn teimlo pan yn ymgymeryd ag ysgrif- enu "Nodiadau Crefyddol" bob mis, nad oedd genyf y cymhwysderau gof- ynol i wneyd hyny, am nad oeddwn yn ddigon cyfarwydd—ar hyn o bryd—a symudiadau crefyddol Cymru. Teim- lwn—os oedd lle cyntaf i fod—mai eiddo Cymru oedd y lle cyntaf mewn erthygi felly. O ganlyniad, rhyddhaodd y Gol fi yn garedig, a chaniataodd i mi gael bod yn free lance gyàz. rhyddid i draethu'r drefn ar bob peth fel eu gil- ydd. Efallai y bydd ambell ddarllen- ydd yn galw peth felly yn hotch ỳotch. Os felly, does dim i'w wneyd, ond iddo symud ymlaen i'r tudaìen nesaf. Bydd digon o amrywiaeth yn y Cronicl i gwrdd a chwaeth pawb. * # Mr. Lioyd Oeorge. Y\\ peth sy'n amlwg ìawn yn y byd gwleidyddol ar hyn o bryd, sef fod Mr. Lloyd George yn un o brif alluoedd yr oes. Erbyn hyn y mae wedi enill coron John Bright. Cyn brwydr y Crimea, yr oedd bywyd Bright mewn perygl, a gwnaed ymosodiad ar ei breswylfod gan y rabble. Digon tebyg pe bai " gwrdd deirw Basan" wedi cael gafael ar ein cyd- wladwr dewr yn Birmingham y dydd o'r blaen, y buasai galw am Aelod Newydd dros fwrdeisdrefi Arvon. Yr oedd Bryste yn foneddigeiddiach na Birmingham, a chafodd yr Arweinydd Cymreig wrandawiad. Dyna'r oll a ofynir. Ac nid oes neb—ond yr hwn sydd a'i achos yn bwdi—nad yw yn foddlon clywed yr ochr arall. Y mae rhyddid barn a rhyddid llafar, yn ddwy hawlfraint pob dyn byw. Er hyny, yr oedd profiad Lloyd George yn Bir- mingham yn debyg i eiddo Paul yn