Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

■ .- ),... Ẅ ^Y CRONICL.A *4 Rhif 705.] IONAWR, 1902. [Cyf. LX. Nodiadau erefyddol. Oan EYNON. ADDAWA ein gohebydd ffyddlawn a gwerthfawr Eynon anfon nod- iadau misol yn y flwyddyn 1902 ar faterion cyffredinol y dydd. Teimlai ei fod o'r blaen yn cael ei gaethiwo yn ,ormodol wrth gyfyngu ei hun i sylwi ar ddim ond ag'weddau crefyddol ein ;bywyd cyhoeddus. Heblaw hyny yr «oedd yn mhell o Gymru, ac i fesur wedi myn'd yn ddieithr i'n bywyd crefyddol ac er nad oes un o'r brodyra weinidog- .aethant gyda'r Seison wedi cadw i fyny „ei berthynas a gwlad ei enedigaeth yn fwy byw nac Eynon, eto mae blynydd- oedd o waith mawr yn nghanol gofalon lluosog bywyd Llundeinig yn rhwym o rwystro dyn i dalu y sylw a ddymunai i symudiadau crefyddoí Cymru. Mae . sicrhau gwasanaeth un sydd yn byw a'i j law ar guriad gwaed y Genedî yn ei Phrifddinas, yn gaffaeîiad mawr i gy- hoeddiad. Er mai oes y gwefr a'r mellt yw hon, eto anhawdd i bobl sy'n byw yn mhell ddeall symudiadau cy- Tioeddus a phynciau o bwys fel y gall . dyn yn y Brifddinas eu deall. Heblaw hyny bu'r Croniçl yn ffodus ers blyn- yddoedd nid yn unig i gael cyfaiil yn y Brif-ddinas i gadw Ilygad ar amgylch- iadau a phethau pẁýsig y dj'dd, eithi- cafodd hcfyd wasanaetìi un ordd mewn perffaith gydymdeimlad a chenhadaeth y Crönicl,- Ëu Eynön yn gyfâill i heíi ^olygwyr y Cronicl, daliodd hyd eu diw- edd , yn ffyddlon iddynt. Ysgrifenodd lawer yn mhlaid y gwirioneddau á gefnogant, a pharha eto i goledd yr uií golygiadau. Diau y bydd i'n henwad yn Lloegr fynd o dan lawer o gyfnew- idiad yn y blynyddoedd sydd i ddod, a da fydd i ni yn Nghymru gael gweled- ydd craff ar y muriau i ddyweud wrth- ym pa fodd y bydd pethau yn mynd yn mlaen. Nid oes radd o amheuaeth ychwaith na welir cyfnewidiadaumawr- ion yn y byd gwleidyddol ar fyrderi Hawdd gweled fod y wlad yn dechreu blino ar y Rhyfel yn Neheudir Affrica, a bydd raid i'r Blaid sydd gyfrifol am dano wynebu'r wlad eto cyn hir. Felly gallwn ddisgwyl amseroedd o bryder òs'nad çyfyngder a bydd yn dda i ni wrth bob goleuni a chyfarwyddid fel a geir yií Noo*iadau Eynon. Bydd rhifyn Chwef- ror yn cychwyn ygyfres newydd a diaü y bydd ein darllenwyr yn edrych yn mlaen at y rhifyn hwnw yn aiddgar. Rhaid i ni ddiolch i'n cyfailí Eynon á chyfeillion ffyddlon eraill, am eu cynor- thwy gwerthfawr gyda'r Cronicl. Trwy eu help gwirfoddol a didal hwý Hwyddodd y Crenicl i enill lle anrhyd- eddus yn mysg cylchgronau. goreu Cymru. Aç wrth ddiolch i'n goheb- wyr a'n dosbarthwyr, a'n darllenwyr goddefer i ni ddymuno iddynt bawb oll !' ' ; flwyddyn newydd dda. , Reinion.