Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y CRONICL.^ Rhif 704.] RHAGFYR, 1901. [Cyf. LIX. Nodiadau erefyddol. Gan Newyn Offeiradon. CWYNO mawr sydd yn y gwersyll Sefydledig y dyddiau hyn yn herwydd yr anhawsder i ber- swadio gwyr ieuainc i ymgeisio am •" urddau sanctâidd." Dyma'r eglwys gyfoethocaf dan haul, ac eto o fewn hon ceir cannoedd o weinidogion ffyddlon a'u gwragedd ä'u plant yn byw yn y tylodi mwyaf arswydus. Pe bai yr un chwareu teg i dalent yn yr eglwys ag sydd y tu allan, diau y buasai y supply jyn atteb y demand, ond ysywaeth y mae cymaint yn dibynu ar ffafrau a dylanwadau ac achyddiaeth fel nad oes chwareu teg. Gwyddis yn dda os buasai bywoliaetheglwysigyn meddiant hen deulu y cedwid hono fel rheol i'r .bachgen pendew a elwid thefool of the family. Nid yw pethau cynddrwg ag y buont, ond y maent yn bur ddrwg ac y mae yr eglwys gadwodd Daniel Rowland yn gurad drwy ei oes, aC a adawodd i Goronwy Owen farw ar dir yr estron, eto yn anghófio sut i wobrwyo talent a ffyddlondeb a chrefyddoldeb. EYNON. na'r enwadau crefyddol perthynol i'r Eglwys Rydd. Mae'r Commonwealth —-misolyn Eglwysig Radicalaidd—yn ceisio cael ateb i'r cwestiwn ar ben y paragraff hwn Paham ? Ceir pump o atebion gan bump o bersonau, ac y mae yn hynod sut y maent yn amrywio. Edrychant ar y weinidogaeth fel crefît i'w dewis heb son am "yr alwadnefol." Teflir y bai ar y rhieni, a'r ysgolfeistri, a'r prifysgolion, a hwn ac arall. Canon Barnett sy'n d'od agosaf at y gwir pan yn dywedyd mai yr angen mawr yw angen tòn o fywyd ysbrydol. Ac yn wir dyna yw angen yr holl eglwysi yn y dyddiau hyn. # # Paham ? Dyna un rheswm paham nad yw ^gwyr ieuainc y prifysgolion yn ymgeisio am y swydd weinidogaethol. Heblaw hyny bu adeg pan oedd yr eglwys yn un a chytun, ond är hyn o bryd y mae wedi ymranu yn bleidiau uchel, isel, ílydan, a chanòl, nes y maent mewn gwirionedd yn Uawer mwy ymranedig # # Yr Enwad newydd. Cyn ffarwelio ar byd dymunai Dr. Joseph Parker adael i ni fras linellau o'i gynllun i ail-eni Annibyniaeth, ac y mae yr Eglwysi y dyddiau hyn yn cyfarfod mewn cynadleddau i gymeryd o dan ystyriaeth yr hyn y mae Apostol y City Temple wedi ei draethu yn Manchester ar y pwnc. Bu'm mewn cynadledd y dydd o'r blaen—cynadledd o wyr Kent—ac yr oedd yno Hen a Newydd Gyfansoddwyr. Gobeithiwn nad oes ystorm na rhyferthwyr yn aros yr enwad yn Lloegr—a chredwn nad oes—ar yr un pryd y mae ganddynt gwestiwn pur gyndyn i'w benderfynu. Ein anhawsder ydyw, sut y mae yn bosibl i ni gäel mwynhau manteision— rhai o fanteision—Presbyteriaeth a