Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(^Y CRONICL. Rhif 703.] G) TACHWEDD, 1901, [Cyf. LIX. Nodiadau erefyddol. Gan Ail-eni'r Enwad. ni YNODIR cyfarfodydd yr Undeb T"T Cynulleidfaol yn. Manchester J eleni gan y ffaith fod Dr. jos- eph Parker wedi dadlenu yno ei gyn- llun i ail-eni yr enwad Annibynol. Y mae pawb o honom yn credu yn y ffurf- lywodraeth sydd genym fel y peth agosaf at ddysgeidiaeth y Testament Newydd. Diau fod yr Eglwysi Apos- tolaidd yn Eglwysi Annibynol, ac nad oedd gan yr un hawl i arglwyddiaethu ar y lla.ll. Sut i sicrhau annibyniaeth yr Eglwysi a sicrhau eu cydweithred- iad hefyd yw y pwnc raawr i'w bender- fynu. # # Eisiau rhywbeth. Y mae yn ddigon amlwg fod eisieu rhyw gynllun er sicrhau cydweithred- iad rhwng yr eglwysi cryfion a'r gwein- iaid. Nis gellir gwadu nad yw ein Hannibyniaeth eithafol yn felldith i ni mewn llawer man. Daw hyn i'r golwg yn amlwg iawn yn ein perthynas a'r dinasoedd mawrion. Tuedd y cyfoeth- ogion yw symud allan o'r dinasoedd, i fyw allan yn y suburbs. Y mae mewn Eglwys tel eiddo Doctor Horton ddigon o hen swyddogion eglwysig—diweddar arolygwyr, a diaconiaH, ac felly yn y blaen—i weithio dwsin o eglwysi. Cyn i'r byd wenu arnynt yr oeddent yn ael- odau defnyddiol a gweithgar o wahanol -eglwysi yn Llundain fewnol, ond ar ol gwneyd tipyn o arian, nis.gellirynhwy .M EYNON. fywuwchben y shop, rhaid myned allan tua'r wlad i fyw,.ac felly dewisir rhyw ardal hyfryd ar y terfynau ac eir yno (ys dywedai Dr. Parker unwaith) to rest and t.o rot—i orphwys ac i bydru. Geiriau cryfion—ond y mae llawer o wir ynddynt. # # Beth wneir ? Y pwnc yw -sut y mae sicrhau cyd- weithrediad rhwng yr eglwysi sydd yn myned yn dlotach, dlotach, a'r ëglwysi hyný sydd yn myned yn gyfoethocach, gyfoethocach ? Sut y mae sicrhauhyn heb i'r Eglwys dlawd golli ei hariní- byniaeth a'i hunanbarch ? Os cerir egwyddorlon Annibyniaeth allan yn llythrenol ac eithafol—os penderfynir nad oes dim llàis gan yr Eglwys gref sy'n cynnorthwyo—os mai dim ond cyf-r ranu yw ei braint hi, ceir gweled maès o law—yn wir yr ydys wedi gweled yn barod—nad oes dim o flaen yr Eglwys wan ond gwywo a marw. Nid opiniwn ydyw hyn. Ceir yn Llundain Eglwys ar ol Eglwys wedi marw, nid am nad oes pobl yn yr ardàl—ond am nad oes adnoddau personol ac ariauol i gario'r gwaith ymlaen. Un canlyniad o'r an- nibendod hwn yn ein Hannibyniaeth yw fod yr enwad wedi gorffen byw jnewn ìlawer ardal. # # ;. :• E&ia;npl Wesleyaeth. N id. oes genyf fi ddim cariad ^it 4deddfau caethion yr enwad Wes-