Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y. CRONICL,^ Rhif 702.] HYDREF, 1901. [Cyf. LIX. Y DIWEDDAR ARLYWYDD McKINLEY. WRTH agor Arddangosfa Buffalo saethwyd yr Arìywýdd McKinley dclwy- waith yn Nheml Cân, gan Czolgosz, öedd wedi ei ddewis gan glwrn 0 Ànarciaid Cleveland, Ohio, i wneud yr anfäd-waith. Yr oedd Mr. McRinley newydd ddodi ei lawT ar ben geneth fach dlos a godasid i fyny ato, ac i ar estyn ei law i'r un nesaf yn yr orymdaith, pan glywyd sŵn dwy ergyd. Eis- teddodd Mr. McRinley ar gadair: gwelwyd gwaed ar ei ddillad: gwaeddodd dynes " Mae'r Arlywydd wedi ei saethu ; " taflodd y dorf ei hun ar y llofrudd: ond llwyddodd yr heddgeidwaid i gael gafael yn Czolgosz, ei daflu i ystafell, a rhwystro y bobl i ddial eu llid arno. Yr oedd 30,000 yn yr Arddangosfa, ond • ciliodd pawb o ffordd yr auto-mobile a ddygai'r Arlywydd clwyfedig i dŷ President Millburn. Yno y bu'n gorwedd am wyth niwmod, a'r meddygon medrusaf ar eu heithaf yn trethu pob dyfais a gwybod i gadw angeu draw oddi- wrthô. Beichid y gwifrau a negesau o gydymdeimlad ag America, a'r Arlywydd\ claf a'i wraig, oddiwrth ymherawdwyr, brenhinoedd, bonedd a gwreng, cym- deithasau a byrddau pell ac agos. Dydd Gwener, Medi 6ed, y derbyniodd yr Arlywydd ei niweidiau, a dydd Sadwrn, Medi i^eg, am gwarter wedi dau, y terfynodd ei fywyd duwiol, defnyddiol, a phrysur. Daliai'r meddygon i feddwl hyd dydd Iau y medrent gadw angau draw. Llwyddasant i dynu un fwled allan, ond aethai y Ua.ll i'r cefn ac yno y gadaẅyd hi. Ail-agorasant y briw ddydd Mawrth, o herwydd fod edafedd o'r dillad a lechai yn yr archoll yn achosi gofid. Nos Iau gwanhaodd calon y dioddefwr dewr; methodd dreulio ei fwyd; gwelwyd fod marw yn agos. Disgwyl y diwedd wnaed wed'yn. Gofynodd ddydd Gwener am i'r rliai a weinient arno beidio cuddio'r coed o'i olwg. " Mae arnaf eisiau gwel'd y coed," meddai, "y maent mor brydferth." Dywedwyd wrtlio nad oedd ganddo ond ychydig oriau i fyw. Gofynodd am wel'd ei anwyl briod a bu hithau ei hun gydag ef am ddeng mynud. Erfyniai arni ymgysuro ac ymwroli, a dy- wedodd, " Gwneler ewyllys.Duw ac nid ein hewyllys ni." Yr oedd ei frawd Mr. Abner McKinley a'i gyfaill y Seneddwr Hanna gydag ef i'r diwedd. Cadwodd Dr. Park rai o'r geiriau olaf a ddaeth dros ei wefusau, ar gof, " Yn nes, fy Nuw, i.Ti. Dyna weddi na ddiffoddir mohoni—dyna fy ngweddi inau." Good-bye bawb. Ffordd D.uw yw'r un oreu. " Ei ewyllys Ef ac nid ein hewyllys ni a wneler." I'an aed i ystafell gerllaw i hysbysu y Seneddwyr a'r Weinyddiaeth fod yr Atlywydd wedi marw, troes pawb i wylo. Torodd Mrs Parker, chwaer Mrs McKinley y newydd trist i'r weddw wanaidd. Dywedodd hithau mai ewyllys ei phriod oedd ar iddi ymwroü, a'i bod yn benderfynol o wneud ei goreu. Dygwyd y corff i Neuadd y Dref, a'r Llun canlynol symudwyd ef i Washin^toü yn gyntaf, i'r White Horse.ac yna i'r Capitol, lle y dodwyd ef i orwedd ar yr elor fu'n dal cyrfî yr Arlywyddion eraill a lofruddiwyd, Lincoln a Garfield. Gorphwysodd corff yr Arlywydd un noson o dan yr hen gronglwyd yn Canton, yn ol cais Mrs McRinley. Dydd Iau, Medi ìgeg, 1901, wedi gwas- anaeth byr yn Nghapel y Wesleyaid lle yr oedd Mr. McfCinley yn aelod ac ymddiriedolwr, claddwyd gweddillion y gŵr mawr yn nghanol ei gyfeillion yn Nghladdfa Westlawn, Canton.