Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONI-CL.» G)' Rhif 701.] MEDI, 1901. [Cyf. LIX. Nodîadau Crefyddol. ;* Gao Dirwest ya Eglwys Loegr. HWYRACH na wyddech chwi ddim fod gan Eglwys Loegr Gymdeithas Ddirwestol. Os nad ydyw'r byd yn gwybod mae'r eg- 3wys—er ei gofìd a'i helbul—yn gwybod ihyny yn rhy dda. Job yw cadw Crist j&. Belial o dan yr un faner—gwaeddi "The Bible and The Beer" ag un anadl. Daeth ýr anwyl gariadus frodyr o hyd i linyn elastic hylaw iawn i gylymu'r Eglwys a'r Dafarn yn nghyd. Y mae ganddynt yn perthyn i'w Cym- deithas, " Aelodau Anrhydeddus." Nid yw y rhai hyn yn llwyrymwrthodwyr. Brochent yn arw pe dywedech eu bod yn feddwon. Felly cwestiwn anlíawdd iawn ei ateb yw pa beth yw ystyr eu haelodaeth, rhagor na hyn—gallant -chwythu'n oer ac yn frwd: gallant waeddi hai! gyda'r ci a hai! gyda'r geinach, wrth fod yh " Aelod Anrhyd- -eddus " Heblaw hyny dyna'r ffashiwn. Gwelwyd bathòdyn yn hongian wrth wregys boneddiges ieuanc yn ddiwedd- 2lX. Gofynwyd iddi pa beth ydoedd. " O dyna fy badge dirwestol, yr wyf yn perthyn i'r Cliurch of England Tem- ỳerance- Socicty !'" " Eelly yr ydych wedi rhoi goreu i yfed gwin ? " "O! na, nid wyf wedi peidio yfed ychydig win." " A oeddych yn yfed gormod o'r blaen ? " " Yfed gormod, pa fodd y ^allwch awgrymu y fath beth ? " Wel, gan nad ydych yn peidio yfed gwin yn ^awr, ac os nad oeddyGh yn yfed gormod; EYNON. o win o'r blaen, beth yw ystyr y badge?" " Oh ! " meddai'r eneth, " it is quitt the thing to do you know." * * Tafarnwyr i Areithi» Dirwest. Mae canghen o'r Cymdeithas Ddir- westol ryfedd hon yn perthyn i Esgob- aeth Bangor, a llwyddai'r Esgob raewn cyfarfod o'r ganghen a gynhaliwyd yn y ddinas hono y mis diweddaf. Dywed- odd yr Esgob ei fod yn credu yr. helpai'r tafarnwyr y wlad i gael deddfau.dir- westol! Ie, aeth yr Esgob mor bell a gwahodd tafarnwyr a allai fod yn y cyfarfod i dd'od yn mlaen isiarad. Wele ddrychfeddwl teilwng o Esgob! Dodi tafarnwr i areithio ar ddirwest! Clywais am offeiriad yn cadw tafàrn ! Dodi Satan i ladd ar bechod-! Urddo'r Bo Lol a'i ddodi i bregethü yn y Cathëdral fydd y peth nesaf. ; A yw'r Esgob bondigrybwyll mor ehud a meddẃl yr helpa'r tafarnwyr y wlad i roi íhaff am eu gyddfau eu hunain ? Tafarnwyr am helpu'r werin i gael ymwared o'r felldith! A ddarllenodd yr Esgob hanes triciau teulu'r ddiod yn nglyn a'r Byl i rwystro rhoi diod i blant, ac a basiwyd yn y Senedd y noson o'r blien? Difethodd teulu'r ddiod y Býl hwnw drwy wthio adran i'r ddeddf i ganiatau rhoi gwirod i blentyn mewn potel a chorcyn arni!! 'Dase fodd rhoi corcyn ar ambell Esgob siol - wà.g, cawsem ein blino a llai o froth.