Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-£*Y CRONICL. Rhif 700.] ÄWST, 1901. [Çyf. LIX. Nodiadau erefyddol. Gan Cau'r pyrth yn y Porth. YR wyf wedi darllen gyda mawr ddyddordeb—a pheth syndod ef- allai—hanes cyfarfodydd Undeb y Bedyddwyr Cymreig yn y Porth Cwm Rhondda, y dyddiau diweddaf yma. Gŵyr y rhan fwyaf o ddarllen- wyr y Cronicl fod un gwahaniaeth pwysig rhwng Bedyddwyr Cymru a'u brodyr yn Lloegr. Maé'r blaenaf yn ^Wí?M-gymunwyr; mae'r olaf yn rhydd: hyny yw, agorant eu cymundeb a der- byniant fel brodyr yn yr Arglwydd y rhaì ydynt aelodau o'r enwadau Efeng- ylaidd ereill. Daeth y pwnc hwn i fyny o flaen yr Undeb yn y Porth a chafwyd ymddiddan rhyfedd iawn arno. EYNON. gwanwyn ymddengys fod y Prifathraw Edwards, Coleg y Trochwyr—(oblegid yr ydym ninau hefyd yn Fedyddwyr)— wedi ymneillduo o'r Pwyllgor yn hyt- rach na bod yn gyfrifol am gymundeb undebol! Oni bai fod Dr. Edwards ei hun wedi cyfaddef hyn buasem yn dweyd: Anhygoel! * # Cyduno i anghyduno. Fel y gwyddis y mae yr enwadau Efengylaidd yn Lloegr wedi cyduno i gydweithio a'u gilydd yn mhlaid sobr- wydd ac addysg a chenadaethau cre- fyddol at y werin a mudiadau daionus o'r fath, ac y maey Bedyddwyr Seisnig yn galonog yn yr undeb hwnw. Yn ystod yr wyl flynyddol ceir un oedfa i gydgofìo angeu'r groes. Mae'r Bed- yddwyr Cymreig bob amser wedi cadw draw ó'r cyfarfod hwn am nas gallant gydgymuno gyda pob math o gymer- iadau—dynion íci Dr. Parker a Mr. Hugh Price Hughes a Dr. Monro Gib- son a'r cyffelyb ! Nid ydynt wedi eu tynu drwy'r dŵr. Pan gafwyd y cyfär- rfodydd blynyddol yn Nghaerdydd yn y # # Llosgi'r Pontydd. Cynygiodd rhywun yn y Porth (Mr. David Davies, o Brighton) fath o bont i groesi'r gagendor, sef nad oedd.Cymun- deb unedig i fod pan fuasai yr Undeb yn cyfarfod eto yn Nghymru. Gadewch iddynt—meddai—blygu i'n trefn ni pan yn cyfarfod yn Nghymru, ond peidiwn eu rhwymo wrth ein trefn fach ni pan yn cyfarfod yn Lloegr. Dyna synwyr cyffredin ebe pawb! Waeth beth am dani wnai dim y tro ond Troch neu ddim, Troch all round—Troch \ bawb —Troch yn mhobman, a phasiwyd yn unfrydol (!!)—ebe'r papyr newydd— nad oedd Trochwyr Cymru am undeb 0 fath yn y byd a neb oddigerth iddynt gael eu tansuddo mewn dŵr. Ar 01 goruwchwyliaeth wlêb felly, daw dynion fel Parker a Jowett a Hughes yn ffìt i eistedd mewn cymun ochr yn ochr a'r hen frawd Shon Droch ! Ofer yw dadleu a pheth fel hyn. Y ffordd oreu y w gadael y mater yn llonydd nes y daw ysbryd eangfrydig i fewn i'r Eg- ìwysi Trochyddol Cymreig gan daflu allan y ffanaticiaeth bresenol. Mae