Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL,^ ;Rhif 698.] MEHEFIN, 1901. [Cyf. LIX. Nodiadau <2refyddoI. *■ Merthyron Cenhadol. MAE Cymdeithas Genhadol Llun- dain wedi cael colledion mawr- ion yn ddiweddar drwyfarwol- aeth pump neu chwech o'r eenhadon ardderchocaf. Gofidus ychwanegu fod tri o honynt wedi meirw yn ferthyron dros yr Efengyl. Dyna'r Parch. J. Stonehouse, yr hwn a laddwyd gan y Boxers yn China pan yn gweithio fel negesydd trugaredd ymhlith anffodus- ion y wlad fawr derfysglyd hono. Dyna wed'yn y ddau genhadwr Mri. Chal- mers a Tomkins yn Ynysoedd New Guinea. Rhyw 28 oed oedd Mr. Tom- kins, ond er yn ieuanc ar y maes, yr oedd wedi rhoddi eisoës brofion amlwg nad cenhadwr cyffredin mo hono, ond un yn debyg o wneyd marc ymhlith yr ar- dderchocaf o honynt. Am y Parch. James Chalmers ni raid ond ei enwi. Efe a Griffith John oedd y ddau gen- hadwr enwoca'n fy wo eiddo Cymdeithas Llundain. # # Dr. Chalmers. Dyn o stamp David Livingtone yd- oedd—yn genhadwr o',r fath fwyaf an- turiaethus. Ganwyd ef yn ínverary gerllaw Castell y Duc o Argyll, ac )^r oedd efe a'r hen Ddug yn gyfeillion mawr. Ni raidsynu.dim. Dyn ymhlith miliwn o ddynion ydoedd Chalmers. Yr oedd delw brenin ar ei wyneb. Dau lygad fel dwy fellten. Gwallt du fel ý frân a digonedd o hono. Ac-yn ei osgo a'i' gerddediad' yr oedd- wedi ei eni yn ,árwéìnydd dynìon. Llawër gwaith ÿ cariodd ei fywyd yn ei law i blith dyn- ion anwar, a llawer gwaith y diangodd megis o safn angeu, ond y dydd o'r blaen pan gododd cweryl rhwng dau Iwyth barbaraidd aeth efe a Tomkins i gyf- ryngu yn enw heddwch, ond lladdwyd y ddau yn nghydä nifer fawr o Grist- ionogion brodorol. Taenodd y newydd prudd dristwch cyfîredinol dros Gyrdd- au Mai eleni. Nos Wener diweddaf cafwyd Cyfarfod Coffadwriaethol yri y City Temple. Ond bydd Chalmers er wedi marw yn llefaru eto fel un o dy- wysogion y byd cenhadol. # # Yr Eglwys Anibynol Undebol. Mae'r teimlad yn ymledu ar bob llaw fod angen rhywfaint o ddiwygiad ar beiriant Annibyniaeth. Fel ffurflywodr- aeth Eglwysig codwyd hi o'r Testa- ment Newydd—lle y mae pob eglwys a enwir yn gorph annibynol ar bob eg- lwys arall. Ar yr un pryd teimlir fod yr enwad yn Lloegr yn cario'r syniad mor bell nes y mae Annibyniaeth wedi myned yn annibendod. Achwynir fod pob math o ddysgawdwr yn gallu gwthio ei ffordd i'r weinidogaeth, ac y mae yn wirionedd diameuol fod gwrthod-: edigion yr enwadau ereill yn cael lle a' chroesaw yn ein henwad ni heb eu bod: bob amser yn ychwanegu dim at nerth a gwerth y weinidogaeth. Y mae hyn yn wirionèdd chwerw yn Lloegr a theimlir ei bod yn bryd bellach i gael rhyw fàth .0 safon derbyniad onide fe 'à'r drwg ÿri llawer gwaeth. Mater