Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y CRONICL,^ Rhif 697.] MAI, 1901. [Cyf. LIX. Nodiadau Crefyddol. Cyrddau Mai. ELENI cynhaliwydcyrddau misMai yn niwedd mis Ebnll. Dyma amser arferol ein cyfeillion y Bedyddwyr, a chan fod y ddau gadeir- ydd (Dr. Maclaren o Manchester, Cadeirydd y Bedyddwyr, a Dr. Joseph Parker, o'r City Temŷle, Cadeirydd yr Annibynwyr), yn hen gyfeillion, ac yn gadeirwyr yr ail waith, ac yn cyd- gadeirio ar ddechreu canrif newydd, penderfynasant gael cyfarfodydd Un- debol. Cynhaliwyd hwy yr wythnos hon, ond y mae yn bur anhebyg y ceir ail-adroddiad o hyn am dipyn am fod y cyrddau mor anferthol fawr. Deil capel Dr. Parker rhyw 3.500 pan yn orlawn, a dyna lle buom fore dydd Mawrth mewn hinsawdd Affricanaidd yn gwrando Dr. Maclaren, a bore dydd Iau yn gwrando ar Dr. Parker nes oeddem wedi ein pensyfrdanu. Aeth- pwyd ar cyfarfod Cenhadol i'r Albert Hall—lle yn dal deg mil, ac yn rhy afresymol o fawr i neb allu siarad ynddo ragor na rhyw chwarter awr. Felly llwyddiant ac nid ö/lwyddiant y cyfarfodydd fydd yr achos os na cheir rhagor o honynt. # # Araeth Dr. Maclaren. Testyn Dr. Maclaren oedd " Hen Bregethwr a'r Bregethu." Nid yw Maclaren yn pregethu byth ond "o'i frest." Eryr mewn cage yw Mac- laren yn darllen papyr, ond darllen papyr gafwyd. Gwir ,ci fod yn alluog, yn hyawdl, yn efengylaidd, ac o deil- yngdod llenyddol, ond pe cawsem Alex- ander Maclaren heb ei bapyr cawsem ef ar ei oreu. Fel yr oedd, yr oedd yn anerchiad godidog. Edrychodd ar y pregethwr yn y tri chymeriad o Efeng- ylydd ac Athraw a Phroph#yd. Teim- lem wrth wrandaw ei fod yn deall ei waith, ac efallai ym mhlith pregeth- wyr yr oes hon ni chyfododd mwy na Doctor Maclaren. Gan fod yr anerch- iad yn nwylaw pawb erbyn hyn ni raid manylu. # # Yr Eglwysi Rhydd a'r Brenhio. Ar ddiwedd araeth Maclaren daeth y doctoriaid Rogers a Glover ymlaen a mynegiad teyrngarol yn dadgan ffyrìdlondeb ì'r Brenin ar Orsedd. Yr oedd yr hen ryfelwr Rogers (cyfaill personol i'r Brenin) heb barotoi, a bu yn crwydro i raddau, ond yr oedd Dr. Glover wedi parotoi ar gyfer achlysur mor bwysig. Ar ol hyny yr oedd y Prifathraw Rainy ar ei draed yn cynrychioli Presbytenaeth yr Alban. Talu'r pwyth yn ol oedd hyn, oblegid yn y briodas fawr y dydd o'r blaen rhwng yr Eglwys Rydd a'r Presbyter- iaid Unedig yr oedd Parker a Mac- laren yno yn bendithio'r briodas. \n ddiau gwr mawr a galluog ywr Rainy Efe yw Gladstone. yr Eglwysi Rhydd- ion yn yr Alban, ac i'w fedr ef i drafod dynion a symudiadau y mae y ffaith yn ddyledus fod y ddwy adran Bresbyteraidd wedi eu huno.