Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

jl*Y CRONIOL,^ &HIF 696.] EBRILL, 1901. [Cyf. LIX. Nodiadau erefyddol. Undeb yr Eglwys Rydd yn Caerdydd. EFALLAI mai digwyddiad pwys- icaf y mis mewn ystyr grefydd- ol ydoedd y cyfarfodydd mawr- ion yn Caerdydd. Hwn oedd y tro «cyntaf i Undeb yr Eglwys Rydd gynal .cyfarfod blynyddol yn Nghymru. Daeth y llwythau yno yn gryno o Dan 1 Beersheba, ac nid oedd rhagor rhwng Methodist a Baptist, rhwng Presbyter- ,iad ac Annibynwr. 'Roedd pawb o'r ibrodyr yno'n un, heb neb yn tynu'n :groes. Baptist oedd yn y gadair, sef •y Parch. J. G. Greenhough, oLeicester, a chawsom ganddo anerchiad byw, ffraeth, gwefreiddiol. Bu yno bedwar enwad yn pregethu, y Parch. C. H. Kelly (Wesleyad), y Parch James Owen (Baptist), y Parch. John Wil- liams, Lerpwl (Methodist); a'r Parchn. Doctor Parlcer, J. H. Jowett, J. M. •Gibbon, ac Elvet Lewis (Annibyn- wyr). # » ûwaith Da yr Eglwysi Rhyddion. Damwain wrth reswm oedd hi fod cynifer o Annibynwyr yn dweyd. Pan ddaw y flwyddyn nesaf, efallai mai enwad arall fydd ar y blaen. Dyna un ^peth sydd yn wir fendigedig yn y mudiad hyd yn hyn, nad oedd eiddig- edd yn bod rhwng enwad ac enwad. Fel mater o ffaith, swil dros ben yw y Wesleyaid Toriaidd ymhob man yn Lloegr, ond am y Wesleyaid Radical- aidd y maent yn y mudiad dros eu penau. Ar yr un pryd, Wesleyaid, o bob gradd, sydd yn benaethiaid yn y brif swyddfa. Does waeth yn y byd, am hyny, os yw y gwaith yn cael ei wneyd. Ac yn ddiameuol, y mae gwaith ardderchog yn cael ei wneyd gan fyddin fawr unedig yr Eglwysi Rhydd,- ion. Y mae cyrddau Caerdydd wedi gadael argraph ddofn yn y Deheudir. # # Adolygiad y "Weatern Mail." Un boreu, wrth agor y Western Mail, darilenasom erthygl olygyddol ar ddiwedd y cyfarfodydd, yn adolygu y gyfres ; ac yn methu cael yr un bai ynddynt. Nid yn unig hyny, ond dy- wedai'r golygydd fod yn rhaid i'r Eg- lwys Wladol edrych ati hi neu y cawsid gofid gan y Samson ieuanc hwn sydd wedi gwneyd ei ymddangosiad. Meddwl oedd y Mail am frwydr fawr dadgysylltiad. Ond y rhyfeddod yw, na siaradwyd fawr politics o'r dechreu i'r diwedd. Cyrddau crefyddol oeddent, yn cychwyn gyda gweddio, a phregethu, bob dydd; a thua'r diwedd buwyd yn cofio am angau'r groes gyda'u gilydd, heb fod bwgan u caethgymundeb" yn tori dim ar yr hedd, " Mor hyfryd a daionus oedd trigo o frodyr ynghyd." # # Y Bedyddwyr. Hyderwyf nad yw y dydd ymhell, pan fyddo'r Bedyddwyr yn Nghymru mor oleuedig a'u brodyr yn Lloegr, ac yn ymuno efo'r dyrfa sydd yn cofio Gwaed y Groes mewn un cymundeb mawr agored. Bu'm fy hun cyn yma yn cael