Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y CRONICL.^ Rhif 695.] MAWRTH, 1901. [Cyf. LIX. Nodiadau Crefyddol. •Y Senedd a Dirwest. *\ W /RTH ddarllen y papur y bore y\/ hwn, gwelaf arwyddion fod cyfeilhon sobrwydd o'r di- -wedd yn dechreu hawlio sylw hyd yn nod Senedd Arglwydd Salisbri. Efe yw y Goliath mawr sydd wedi bod yn herio byddinoedd sobrwydd yn y gor- phenol. Safai fel cawr Philistia rhwng y farn gyhoedd a'r dafarn. ac nid oedd obaith ám ddim diwygiad. Ni cheir .diwygiad eto os gali ei Fawrhydi Robert Cecil fod yn feistr. Erbyn hyn, y mae undeb Toriaeth a'r dafarn wedi d'od yn ffaith waradwyddus ac anwadadwy. Mae'r faril a'r Eglwys Wladol wedi ymladd law-law er ys blwyddi bellach. Yr oedd pobl oreu yr Eglwys yn teimlo y gwaradwydd i'r byw, ond waeth beth ,am h)rny yr oedd pob tafarn yn golygu rhyw ddwy vote, a dyna ddigon i droi y glorian ar ddydd yr etholiad. Felly, rhaid oedd cadw Shon Heidden yn foddlon. # # Yr Eglwys a Dirweit. Ar yr un pryd, difrifol iawn oedd gweled Eglwys Wladol Prydain Fawr, yn sefyll fel amddiffynes i fasnach fell- .digedig y Red Cow a'r Black Lion. üiolch yn benaf i'r hen archesgob dewr Dr. Temple, y mae arwyddion fod y briodas ansauctaidd ar gael ei thori, a neithiwr yn y Tý, cafwyd Toriaid ac Undçbwyr yn cwyno am nad . oeddis wedi gwneud dim oll i atal y llifeiriant /Jifäol. Gwir fod addewid am ryw fyl bychan i osod enwau meddwon cy- hoeddus ar ryw fath o restr ddu, ond beth yw hyny yn wyneb mawredd y difrod? Buwyd am dair blynedd yn holi i fewn i'r cwestiwn, ac y mae un- ar-ddeg o gyfrolau o " dystiolaethau " wedi eu cyhoeddi drwy'r wasg. Mae'n b.ryd uno i wneud rhywbeth bellach, ac y mae arwyddion y gwneir. Drwg genym fod y Gwyddelod yn erbyn dir- west Gobeithio y cydunir i godi'r pwnc yn uwch na level plaid. Byddwn ninau ddirwestwyr, yn ddoeth yn ein dydd a'n tymor. Mae haner torth yn well na dim. # # V Genhadaeth Genedlaethol. Mae'r Genadaeth Genedlaethol yn yr Eglwysi Rhyddion wedi dechreu. Yn Llundain y dechreuwyd, ac y mae wedi bod yn llwyddianus dros ben ar y cyfan. Ar yr un pryd, rhaid bod yn onest, a chyfaddef nad yw wedi cydio yn mhobl y prif ffyrdd a'r caeau fel y gallesid dymuno. Gwir, fod yr Efengyl o enau Gipsy Smith wedi llanw capel mawr Spurgeon bob nos i'r tô. ac yn ddiameu dyma'r gwaith mwyaf llwyddianus wnaed yn Llundain i gyd. Nid oedd , John McNeil yn cydio fel y byddai yn arfer. Yn y City Temple ac yn . Exeter Hall y byddai efe yn llefaru, a chafodd aml i gynulliad teneu. Teimla llawer fod y chwerthin mawr y mae yn gynyrchu efo'i sylwadau ysmala, yn tynu y mîn oddiar ei bethau difrifol. Y mae yn gallu gwneud i'r bobl chwer-