Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL.A Rhif 694] CHWEFROR, 1901. [Cyf. LIX. Y FREIMHIIMES VICTORIA. 0ANWYD ei Mawrhydi yn Mhalas Rensington, Llundain, ar y 24ain o Fai, 1819. Ei thad oedd Iorwerth Trydydd, Duc Caint, yr hwn yntau oedd bedwerydd mab Sior III. a chyd-frawd â Sior IV. ac a Gwilym IV. Ellmynes oedd ei mham—y Dywysoges L. Victoria o Saxe-Coburg, gweddw'r Tywysog Leiningen—a chwaer i'r Brenhin Leopold 0 Belgium, taid penadur presenol y wlad hono. Pan yr hunodd ei hewythr, Gwilym y Pedwerydd, yn y plygain Mehefin 2ofed, 1837, gwnaed y Dywysoges yn Frenhines Brydain Fawr a hi yn ddeunaw oed. Yn ystod y deuddeng mis o foreu ei hesgyniad i'r Orsedd hyd ddydd y coroniad cafodd gyfle fwy nag unwaith i ddangos ei bod nid yn unig wedi dyfod yn hyddysg yn egwyddorion gwladweiniaeth, eithr fod ganddi hefyd syniadau clir am ei hawliau a'i dyledswyddau. Enillodd y Tywysog Albert galon y Frenhines pan ymwelodd a Chastell Windsor, Hyd. J4eg, 1836. Mynegodd hithau ei phenderfyniad i'w Chyfrin Gynghor, a phrofodd eu priodas yn un ddedwydd a bendithiol. Wedi cystudd byr bu y Tywysog Albert Dda farw y i4eg o Ragfyr, 1861. Ciliodd y Frenhines o fywyd cyhoeddus hyd y gallai ar ol marw ei phriod, ac ymroddodd i ymgysuro yn ei phlant. Wele yn fyr y prif fesurau a basiwyd yn ystod ei theyrnasiad. Pasiwyd y Mesur Di- wygiadol cyntaf bum' mlynedd cyn iddi esgyn i'r Orsedd. Wedi cael blas ar y cyfryw yr oedd min llym am ychwaneg. Ymeangai masnach dramor a chrefft- waith cartrefol gydag yni na welwyd ei debyg cyn hyny. Wedi dilead Deddf- au'r Yd, yn y fan dechreuodd gwerin gwlad ymunioni. Dygodd Act y Ffactris chwildroad a barodd adfywiad masnachol o'r gradd cyntaf. Gwedi Rhyfel y Crimea, ac mewn canlyniad i'r adweithiad naturiol sydd bob amser yn dilyn Mudiadau Diwygiadol, gadawodd miloedd o'r etholwyr eu cyfeillion Rhydd- frydig ac ymunasant a'r Toriaid. Ni chaed na braint na bendith tra y bu Ar- glwydd Palmerston wrth y llyw. Deng mlynedd o newyn gwladol o'r gerwinaf fu yr eiddo ef. Ond cynted ag y daeth Mr. Gladstone at awenau gwladwriaeth blagurodd ysbryd diwygiad eilwaith gyda nerth dyeithr. Caed Gwasg Rydd, y Tugel, yr Etholfraint, Diddymiad Prawflwon y Prifysgolion, Dadgysylltiad Eglwys yr Iwerddon, Cau Tafarnau C)rmru, ac amryw eraill. Dydd Gwener a dydd Sadwm, Ionawr i8fed a'r I9eg, deallwyd am y waith gyntaf fod iechyd y Frenhines mewn cyflwr a enynai bryder. Yn ystod y Sabboth angerddolwyd y teimlad, a dydd Mawrth, Ionawr 22ain, anadlodd ei Mawrhydi ei hanadl olaf, am haner awr wedi chwech, y'n ei thŷ yn Osborne, Ynys Gwyth; Cafodd gladdedigaeth gyhoeddus fawreddog, a dodwyd ei gweddillion i orphwys (yn ol ei dymuniad) yn ymyl eiddo ei phriod yn y bedd a baratoisai yn Frogmore.