Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 693.] Y GRONICL.ä IONAWR, 1901. [Cyf. LIX. Nodiadau Crefyddol. 19eg Canrif a Chrefydd. CANRIF i'w chofio byth yn hanes crefydd yw y bedwaredd ganrif ar bymt|ieg. Llawer o alarnadu sydd yn bod yn herwydd drygipni a phechod yr amseroedd, ond wrth gym- liaru dechreu y ganrif hon a'i diwedd ceir llawer mwy o achlysur llawen- ydd a diolchgarwch. Dyna Eglwys Loegr, yr oedd hono wedi cysgu a hepian mor hir, fel nad oedd ynddi fawr chwant gwàith yn aros. Saethu adar, a hela cwningod a marchog ar ol cwn, oedd bara beunyddiol y mwyafrif ,o'r personiaid, ac am y praidd druain crwydrent yn yr anialwch moel heb yr ,un bugail yn hidio dim am danynt .oddigerth gofalu am y cneifio ddwy .waith y flwyddyn. # * Eglwys Loegr a'r Oanrif. Gan' mlynedd yn ol rhyw lords di- gamsyniol oedd yr Esgobion—yn cael eu dewis yn fwy ar gyfrif gwaed glâs na dim cymhwysderau ereill. Cyf- uwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear ydoedd Esgob cysurus porth- iannus y dyddiau hyny, uwchlaw tamaid o gurad bychan a'i gyflog fain o rhy w bunt yr wythnos. Rhaid addef y gwir: y mae'r Hen Fam wedi gwella yn rhyfedd yn y mater hwn. Nid y.w.'y parch yn myned eto, bob amser, rr hwn y mae pareh yn ddyledus ; ac y mae y wirepuller llwyddiannus yn jLlundain yn debycach o gael ei wobr .n.a'r gweithiwr jtawel cydwybodol yn y wlad sydd heb ddeall yr art o gyn- llwyno a chynffona. Ar yr un pryd y mae'r awdurdodau adawsant i Goronwy Owen newynu a marw yn ?.l!tud, wedi deall y ffordd erbyn hyn i roddi Dr. John Owen ar orsedd Tyddewi. Mae'r un peth yn wir am y prif gadeiriau yn Lloegr. Y peth mawr yw fod dyn yn " safe "—^yn gallu dal ei dafod—a bod yn wr boneddig. Yna, mae'r byd o'i flaen. * * Yr Eglwysi Rhydd a'r Ganrif. Ond y peth rhyfeddaf o ddigon yn hanes crefydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Mhrydain Fawr, ydyw cynydd ardderchog yr Eglwysi Rhydd- ion. Mae'r byd wedi symud—a symud yn gyflym ar y cyfan—yn hanes crefydd rydd yn y deyrnas hon. Nid yw Eglwyswyr rhyddion yr oes hon fel pe yn amgyffred swm eu dyled i'r ganrif ogoneddus sydd wedi marw. Meddyl- ier am ffeithiau fel y canlyn. Hyd 1828, nis gallasai yr un Ymneillduwr fod yn Faer tref, na Chynghorwr, heb iddo fyned i'r Cymun yn yr Eglwys Wladol unwaith yn y flwyddyn ! Y fath sarhâd ar y Cymun, heb sou am y Cymunwyr! Hyd 1836, rhaid oedd i bawb briodi yn yr Eglwys .Wladol. Hyd 1854, ni chawsai ein meìbion talentog gyfle 1 <?nill honours yn y Prifysgolion. Hyd 1868, cadwyd yr lien dreth Eglwys yn fyw. Cyn 1880, ni chai Ymneillduwr ei gladdu yn mynwent y plwyf gan ei weinidog ei,