Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y 'CRONICL.aä Rhif 692.] RHAGFYR, 1900. [Cyf. LVIII. Nodîadau Crefyddol. Cyngrhair yr E?lwysi Rhydd. 6WNEIR ymdrech deg gan Gyng- hrair yr Eglwysi Rhyddion ar ddechreu y 2ofed ganrif i gy- hoeddi efengyl y deyrnas yn y prif ffyrdd a'r caeau. Hyd yn hyn, nid yw Undeb yr Eglwysi Rhyddion wedi talu cymaint o sylw i waith ysbrydol yr oes, ag y mae wedi dalu i faterion .digon angenrheidiol fel Addysg a Dir- west. Rhaid addef fod yna lawer iawn *o waith ardderchog wedi ei wneyd yn y ffordd hon, ond os yw yr Undeb hwn i wneyd gwaith arosol, teimlir fod yn ifhaid cyffwrdd a bywyd ysb^dol y wlad. Nid oes gan Gymru—diolch i'r nefoedd—fawr profiad o sefyllfa gref- yddol pethau yn gwlad y Sais. Y mae -paganiaeth Prydain Fawr yn y dinas- -oedd mawrion yma yn anghredadwy, ond i'r sawl sydd wedi sicrhau gwybod- .aeth uniongyrchol ar y pwnc, y mae <yr eglwysi Rhyddion yn gwneyd yn îllygaid eu lle, drwy anfon neges fen- -digedig yr Efengyl i bob cornel a •chwmwd yn y wlad. Drychfeddwl ar- dderchog ydyw, a phan ddaw yn ffaith gölygfa arddunol fydd gweled milfiloedd ,0 ddwylaw yn ymddyrchafu tua'r nef- oedd fawr i ofyn am fendith Duw ar y ẅlad. Ysbryd Rhyfel. I bob dyn ystyriol, un o arwyddion gofidus yr amseroedd yw y clodfori •eithafol yma sydd ar yr ysbryd milwrol. Pan ddaeth bechgyn y CJ.V. (City Imỳerial Volunteers) yn ol i'r Brif- ddinas ar ol ymladd yn Affrica, ni chafodd Wellington ar ol Waterloo, na Victoria ar adeg ei Jiwbilì dderbyniad tebyg iddynL Ar hyn o bryd, ym- ddengys fel pe bai Pregeth Fawr y Mynydd wedi myned i'r wâdd ac i'r ystlumod,a wiw i 'r un gyf eillion heddwch yngan gair, na bydd torf o Jingoes yn rhuthro arno i'w ddifetha. Yr hyn sy'n ddifrifol yw, mai ideals ein pobl ni ar hyn o bryd yw eiddo ymladdwyr a rhyfelwyr, ac y mae llais unrhyw Apostol Heddwch fel llef un yn llefain yn y diffaethwch. Fel y mae gwaethaf y rnodd, y mae y dwymyn felldigedig hon wedi parha yn lled hir bellach, ac nid oes ar hyn o bryd fawr arwyddion fod y drwg yn cilio yn ei ol. Apélio at yr anifail a'r cythraul sydd ymhob dyn y raae ysbryd Rhyfel. " War is Hell" ebe General Shennan a dyna yw dedfryd pawb ydynt wedi gweled erchyllderau rhyfelyn bersonol. Rhwydd y gall bechgyn y clybiau a'r drawing- rooms floeddio yn groch am dywallt gwaed. Nid arnynt hwy druain mae'r baich yn pwyso. Mae yna adeg barn gerllaw, a phan ddelo dydd y cyfrif, diehon y cydunir mai diwrnod du yn hanes Prydain oedd hwnw pan y daeth Joseph o Birmingham yn llywydd y wlad. # * Sencdd Saüsbury a Dirwest. Dywedir fod cyfeillion sobrwydd a dirwest yn biir lluosog yn y Senedd