Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y CRONIGLIä Rhif 690.] HYDREF, 1900. [Cyf. LVIII. Nodiadau Crefyddol. Tabernacl Spurgeon. EFALLAI mai y prif ddigwydd- iad yn y byd crefyddol y mis hwn ydyw ail-agoriad Tabernacl mawr Mr. Spurgeon. Mae Mr. Spur- geon ar ol wyth mlynedd yn y bedd yn llefaru eto, a'i enw yn berarogl byw dros yr holl fyd Cristionogol. Cafwyd prawf digamsyniol o hyny yn y modd yr adgyfodwyd yr ail Daber- nacl hwn ar ludw yr hen. Pan losg- wyd yr addoldy byd-enwog i'r llawr rhyw flwyddyn neu ddwy yn ol, ym- saethodd pang o deimlad drwy filoedd o galonau. Tra yr oedd y mŵg yn esgyn i'r nefoedd cofir yn dda fel y darfu i'r newyddiaduron hollwybodol a hollddoeth yma yn Llundain, ruthro ymlaen a'u cynghorion i beidio codi adeilad anferth f el yr hen byth mwy; nad oedd rhagor nag un Spurgeon bob canrif, ac mai oferedd a gwagedd oedd codi Tabernacl mor fawr i bregethwr arall: ond dacw " Tom'Spurgeon" fel y gelwir ef—mab y Spurgeon anfar- wol—yn galw ei ffryndiau at eu gil- ydd, a phenderfynwyd anwybyddu .cynghorion yr Ysgrifenyddion a'r Pha- riseaid a chodwyd Tabernacl mawr .arall ar sail yr hen, ac yn y cwrdd agoriadol yr oeddys yn gallu dweyd nad oedd ffyrlmg o ddyled arno. Cost- iodd 45,ooop., sef rhyw i4,ooop. yn fwy ,na'r Tabernacl o'r blaen. Cafwyd 22,ooop. oddiwrth yr insurance, a chaf- -wyd 23,ooop. gan garedigion crefydd. Agor y Deml Newydd. Y mae penod fel hon yn atebiad gogoneddus i " gysurwyr Job " y dydd- iau hyn. Wedi'r cyfan, 'does dim fel crefydd yn dal yn gadarn. Mae'r wlad hon yn colli arni ei hun yn awr ac yn y man, ond y mae yn dychwelyd i'w hiawn bwyll wedyn maes o law. A'm casgliad i ydyw na bu Iesu o Nazareth mor fyw yn ein gwlad ni erioed ag ydyw yr awr hon. Bu ymweliad y Christian Endeaiwurcrs â'r Brifddinas yn agoriad llygaid i fydolion filoedd, ac y mae hanes capel newydd Spur- geon yn codi o'r Ilwch a'r lludw yn benod ardderchog yn yr un cyfeiriad. Agorwyd ycapel mewn ffordd syml, Mr. Archibald Brown yn llywyddu. 'Doedd yno yr un " seren " fawr yn pregethu. Rhyw brofiadau a gweddiau byrion gan amryw frodyr oedd y cAvrdd agor- iadol. Yn y prydnawn cafwyd pregeth nerthol gan y Cymro hyawdl, y Parch. John Thomas, Lerpwl; ac yn y nos drachefn gyfarfod o anerchiadau. Dy- muniad pawb yw am i ogoniant yr ail deml fod yn debyg—os yn bosibl—i ogoniant y deml o'r blaen. Rhedodd dylanwad hono dros y byd. Boed i Arglwydd Dduw y tad fod eto yn nawdd a nerth i'r mab. # # Mr. Sankey yn Mhrydain. Dygwyddiad crefyddol arall o'r radd flaenaf ydyw ymweliad Mr. Sankey a'r wlad. Mae pawb wedi clywed am