Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

J^Y CRONICL^ Rhif 689.] MEDI, 1900. [Cyf. LVIII. Nodiadau Crefyddol. ■*- NID peth bychan yw cael yn agos i gan mil o bobl ieuainc dan yr un tô yn mis Gorphenaf, a'r oll wedi eu casglu ynghyd gan frwdfrydedd crefyddol. Wel, tybir fod yn ymyl can' mil yn yr Alexandra Palace ddydd olaf cynulliad anferth yr " Ymdrechwyr Cristionogol." Y mae wedi gadael ar- graph arosol ar ddinas Llundain. Y mae rhywbeth yn " fy w " a serchus iawn yn y mudiad. 'Doedd neb yn tynu'n groes, a phan aeth y bwyd yn brin rhyw ddiwrnod yn herwydd maint y dyrfa, fe ymprydiwyd, heb yr un lol na grwgnach yn y byd. Yr oedd yno un grwgnachwr, ebe Dr. Monro Gibson, rhyw bechadur yn sychedu fel ffwrn am lasiad o whisci, ond 'doedd dim o'r cawl poeth hwnw i'w gael am bris yn y byd. Mae dirwest mewn bri ac anrhy- dedd yn myd y " C. E," ac nid yw 'baco yn cael fawr gwarogaeth. Tro difyr oedd hwnw yn Eglwys St. Paul's. Aeth tyrfa yno i'r " gwasanaeth." Yr hen fossil parchedig Deon Gregory' sydd yn llywydd yn St. Paul's, ac aryr achlysur hwn, trefnodd oedfa fechan anarferol o gwta—a dim ỳregeth ! Ar y diwedd, anfonwyd ato gais am bre- geth ond 'doedd yr un i'w chael. Ar ol triniaeth mor shabby allan yr aed i'r awyr agored, ac o flaen ffrynt St. Paul's cynaliwyd oedfa " fyrfyfyr," a chafwyd cwrdd blodeuog, a chasgliad ar y diwedd er budd ychydig o blant bach tylodion oedd yn chwareu o gylch y Ue ! Ac eto Deon Gregory a'i fath yw gwir olyn- wyr yr Apostolion meddent hwy! Un peth sydd sicr, pe bai Paul ei hunan yn cael d'od o'r nefoedd i weinyddu barn ar ymddygiadau y dydd Gwener hwnw, buasai yn debyg iawn o roddi mis o rybudd i'r Deon Gregory on the sŷot, ac agor y pwlpud enwog i Parker neu Clifford neu ryw efengylydd arall teil- wng i ddweyd y neges fawr. # # Yn wyneb y newyddion trist a thru- enus sydd yn dyfod i'r wlad hon o China ac Affrica, da genyf ddweyd fod un pelydryn o oleuni yn tywynu drwy'r tywyllwch. Sicr yw fod Jingoyddiaeth yn llawer Ilai poblogaidd yn y wlad nag oedd chwe' mis yn ol. Mae tymherau dynion yn dechreu oeri, mae synwyr cyffredin yn dechreu d'od yn ol, mae Hosana'r heolydd wedi dystewi, ac y mae rhyfel Affrica yn prysur lanw cwpan John Bwl hyd yr ymyl, ac ni bydd chwant rhyfel arall arno am dipyn. Ofer celu y ffaith—ac y mae y mwyaf rhyfelgar yn addef hyny yn awr—fod John Bwl wedi llosgi ei fysedd yn ar- swydus rhwng pob peth a'u gilydd. Mae pawb wedi hen flino ar y fusnes. Mae yna fifynau o aur melyn wedi eu gwario. Mae yna fìloedd o fywydau gwerthfawr wedi eu colli, ac fe gollir miloedd eto, ac i ba beth y bu y golled hon? Y cwestiwn ofynir yn awr ydyw —nid ai Kruger ai Chamberlain oedd iawn, ond A yw y game 'yn werth y ganwyll ? Fe ddaw da o'r drwg hwn os gellir rywfodd agor ltygaid y teyrn-