Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y CRONICL, G) Rhif 686.] MEHEFIN, 1900. [Cyf. LVIIÍ. Nodiadau ©refyddol. ÄNHAWDD iawn i bobl gall, oleu- edig, hirben, fel darllenwyr y Cronicl ddeall sefyllfa meddwl y dyn hwnw sydd yn glamp o ddefodwr. Yr ydym wedi hen arfer anadlu awyr iach y Puritaniaid, fel mai anhawdd deall sut y mae dynion dysgedig—a duwiol hefyd rai—yn gosod cymaint o bwys ar deganau a seremoniau crefydd- ol. Dyna ddau Archesgob Caergaint a Chaerefrog wedi bod wrthi hi am fìs- oedd lawer yn penderfynu pa un a yw yn bosibl rhoddi cymun effeithiol i ddyn clâf, os na fydd yr elfenau wedi eu "cysegru" mewn ffordd briodol. Y ddadl wrth reswm yw fod y cysegru yn trawsnewid yrelfenau, ac yn troi ybara yn gnawd, a'r gwin yn waed gwirion- eddol yr Arglwydd Iesu. * # Oni bai fod y ddau Archesgob yn ddau D.D., gallesid penderfynu pwnc fel hwn mewn deg mynud neu chwarter awr. Ond mewn eglwys wedi ei rhwymo a 39 o erthyglau—a deddfau canonaidd—mewn sefydHad yn gaeth i Caesar: y mae yn rhaid symud yr holl beirianwaith ; a chael "'llys " yn Lam- beth ; a chyfreithwyr o bob man i geisio penderfynu'r pwnc. Wel, ar oj eistedd mewn cynghor am fisoedd uwchben y tystiolaethau, dyma'r farn yh cael ei chyhoeddi o'r diwedd mai bara yw bara, ac mai gwin yw gwin, gan nad faint o "offeiriaid" fu wrthi yn eu cysegru, a chan nad faint o glychau fu yn canu, a chan nad faint o foesgrymu yr aed drwyddo i wneud gwyrth y trawsffurfio yn effeithiol. Gresyn fod arweinwyr yr Eglwys yn colli amser gwerthfawr uwchben rhyw gwestiynau plentynaidd íel hyn. Mae miloedd o ddefodwyr ein gwlad ni wedi myned yn eihm-addolwyr dan eu dwylaw; a dylasent—os yn onest —ysgwyd llwch y sefydliad Protestan- aidd oddiwrth eu traed a phob un fyn'd i'w le ei hun—yn Eglwys Rhufain. # # Mae cyrddau Mai erbyn hyn wedi cefnu arnom. Yn yblynyddau diweddaf yma y maent wedi lluosogi mor fawr, fel mai anmhosibl yw' i gig a gwaed ddilyn yr oll o honynt. Dyna wneir gan y mwyafrif o honom yw ceisio gwrando ar y " sêr" a gadael y gweddill hyd amser cyfaddas. M r. Carvell Williams, A.S., oedd y cadeirydd. Efe yw y trydydd lleygwr (ellir ddim cael gair gwell na hwn tybed ?) i lenwi y gadair. Henry Richard, A.S., o Dregaron, oedd y cyntaf; Albert Spicer, A.S., oedd yr ail; Carvell Williams, A.S., y\v y 3ydd. Yr oedd Mr. Williams ar uchelfanau y maes yn ymladd brwydrau rhyddid crefyddol ochr yn ochr ag Edward Miall a George Hadfield a Henry Richard cyn geni y rhan fwyaf o honom—ac y mae ei gleddyf yn ddi-fwlch, a'i darian yn ddi-dolc hyd yr awr-hon. Edrychir arno i<ûfield marshall y Dadgysylltwyr. Cawsom ganddo—yn^ol ein disgwyliad —anerchiad hyawdl ar " Angh)^dffurf- iaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg." Gallasai lefaru gydag awdurdod am ei