Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL,^ Rhif 685.] MAI, 1900. [Cyf. LVIIÍ. Nodiadau erefyddol. eODDEFER i mi ddyweud wrth gychwyn hyn o lith—neu efallai gyfres o honynt—mai ar gais Mr. Reinion Thomas yr wyf yn ufudd- Jiau. Yr wyf yn cydsynio a'i wahodd- iad caredig i ysgrifenu yn fisol, er yn teimlo ar yr un pryd mai efe yw'r dyn i ysgrifenu dan benawd fel hwn. Yr wyf fi yn adnabod y byd Seisnig ef- allai llawn cystal ag yntau, ond nis gwn ddim am neb sydd yn deall yn well sut y mae pulse crefyddol Cymru yn curo. Wrth reswm, nis gallaf wneud cymaint cyfiawnder a'r byd crefyddol Cymreig a phe bai Reinion yn ysgrif- enu, ond bellach, addewid yw addewid, a dyma finau, ar ol gair byr fel yna o .gyfarchiad i ddarllenwyr y Cronicl, yn .hwylio yn mlaen. # # I ddechreu—y mae papur wythnosol ,newydd gan yr Anibynwyr Seisnig. Anffodus i'w ryfeddu yw hanes papur- .au wythnosol yr Anibynwyr wedi bod. Pan oeddent fel enwad yn llawer llai ,0 rif nag ydynt yn bresenol, yr oedd ganddynt bapur enwog y diweddar Mr. Edward Miall, sef yr hen Noncon- formist ardderchog—papur oecìd yn enill parch a derbyniad helaeth iawn. Ac er fod y Nonconformist yn costio chwe' cheiniog, yr oedd yr English Jndependent—pris pedair ceiniog—yn gallu byw hefyd; ond er ys blynyddau lawer bellach, yr ydym yn methu cadw papur ceiniog yn fyw. Erbyn hyn mae'r Independent bach, ar ol gyrfa dymhestlog, wedi suddo; " a'i le nid edwyn ddim o hono ef mwy." Ar yr un pryd, credir yn myd y papurau newyddion mewn rhyw fath o draws- newidiad eneidiau, a phrpffesi'r rhyw fath o grediniaeth fod enaid hen bapur wedi marw, yn ail ymddangos mewn papur b}-w, o dan enw arall—newid dan gyfrwy ond yr un hen geffyl o hyd. # * Mae'r Indcỳendent felly wedi marw, ond mae'r Examiner yn fyw. Bu hen bapur enwog yn dwyn yr enw Examiner fyw yn Lloegr o'r blaen, ond nid fel organ yr Anibynwyr. Mae Inguirer gan yr Undodiaid; bellach dyma Ex- amincr gyda'n henwad ninau. A fydd hwn fyw nis gwyddom eto. Os câ Mr. Williamson, y Gol., ryddid gan ar- glwyddi'r Committee, y mae yn sicr o fyw, a llwyddo ; ond rhaid addef nad oedd y rhifyn cyntaf yn rhyw lwydd- ianus iawn. Os gofelir ei fod at wasanaeth yr holl enwad, ac nid rhyw ysgol fechan yn yr enwad, y mae yn rhwym o lwyddo ; os fel arall, y mae yn sicr o fethu. Mae gan y Wesleyaid ddau bapur campus. Mae gan y Bedydd- wyr ddau, y Presb3'teriaid un, ac y mae yn waradwyddus fod yr Anibyn- wyr yn methu cadw dim ond " sparbil " yn fyw er ys blwyddi bellach. Llwydd mawr i'r Examiner. Gobeithio y bydd yn fwy na'i enw anffodus. # # Da genym fod Cymru yn dechreu dihuno ronyn ar bwnc y " Gronfa."