Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL., Rhif 684.] EBRILL, 1900. [Cyf. LVIII. Nodiadau Crefyddol. J\ NFON WYD " Gair ar y Gronfa" j\ gyd& sypynau Cronicl Mawrth. Ysgrifena gohebydd ataf yn bur glir ar y mudiad, yn y geiriau a ganlyn. Hawlia safle'r ysgrifenydd sylw pwyllog i'w eiriau. Dyma fel y dywed fy ngo- 'hebydd:— " Ganwyd y syniad yn yr Undeb yn Mhwllheli yn 1895. Y mae pum' mlynedder hyny. Ychydig dros £5000 gasglwyd Jeto. Rhywsut, cerdded yn drwm y mae'r mudiad. Heblaw'r Un- deb, aed a'r achos gerbron y Cyman- faoedd a'r Cyrddau Cwarter. Ysgrif- enwyd yn lielaeth er argymell yr achos. Gresyn yn wir fod y Gronfa o dan gwm- wl fel hyn. A oes modd rhoddi cyfrif am yr achos ? Ymddengys i mi fod, fel hyn :— 1.—Prin y gellir dyweud fod haner aelodau a gwrandawyr yr eglwysi yn gwybod am y mater. Ni chawsant gyfle i wybod. Nid ydynt yn derbyn na misolyn na newyddiadur enwadol. Ni ddadleuwyd y cwestiwn yn eu clyw yn y cynulleidfaoedd. Prin y mae 20,000 allan o'r 282,793 Anibyn- bynwyr yn gweled ein cyhoeddiadau chwaithach eu darllen. 2.—Os am gael cydweithrediad yr holl gynulleidfaoedd gan gynwys y gwran- dawyr a'r plant, rhaid gadael yr Un- deb a'r Gymanfa a'r Cyfarfod Cwar- ter a myned yn syth at y bobl. Bydd y Ilafur yn fawr ond rhaid ei wneud os am lwyddo. 3.—Camgymeriad arall yw anfon rhyw- un rhywun ar neges o fath hon. Ni wna dim llai y tro nag anfon ein gweinidogion a'n lleygwyr mwyaf eu dylanwad a godidocaf eu doniau. Rhoddai y cynulleidfaoedd groesaw i gwpl felly yn mhobman. Tybier fod gwyr fel y Meistri Eynon Davies a Josiah Thomas, Dr. Owen Evans a Lewis D. Jones (Llew Tegid), Owen Rhys Owen, Glandwr; a John Parry'r Bala, a'u cyffelyb yn cy- meryd pythefnos o daith drwy ranau o Dde a Gogledd yn Ebrill, nid oes amheuaeth am y canlyniadau ond gofalu am daenu gwybodaeth yn dew yn mhob cynulleidfa am yr ymweliad. 4. -Yn olaf, ofer crybwyll am Ugain Mil wrth y bobl, heb ofalu ar yr un pryd am gyhoeddi y neges sydd idd- ynt. Uner y ddau yn un mewn priodas anwahanadwy. Ceir yr ar- ian gan y bobl ond anfon gwyr cym- wys i egluro iddynt y mudiad a'i neges; heb hyny, ofer breuddwydio am £20,000 er lleied y swm." # # Da iawn genyf glywed bob amser oddiwrth hen " Groniclwr." Ar fwrdd yr agerlong "Gwenllian Thomas " yn Oran, Algiers, Chwefror I3eg, y flwyddyn hon yr ysgrifenwyd y llythyr a ganlyn, ac fel y gwelwch mae'n es- bonio'i hun :— " Cymeraf fy hyfrdra i anfon gair atoch. Nisgallaf ymatal. Nisadnabum