Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-SL.Y CRONICL.^ Rhif 683.] MAWRTH, 1900. [Cyf. LVIII. Nodiadau Grefyddol. ÍÉ %y CRONICL"w*wjŵywbaich I y llythyrau a dderbyniais wythnosau cyntaf y flwyddyn. Yr wyf yn dra diolchgar i'r cyfeillion a ysgrifenasant ataf. Dyfynir rhanau o'u llythyrau mewn lle arall. Cefais air o gymydogaeth Abertawe yn dy- weud fod Mr. Parry, Llansamlet, wedi siarad gair dros y Cronicl yn y Cwrdd Chwarter diweddaf, a chredir y caiff ein misolyn gylchrediad mwy cyftredinol yn y cylch yn y dyfodol. Yr wyf yn meddwl fod ein bwriad i neillduo'r elw a geir oddiwrth y cylchgrawn, at Achos- íon Gweiniaid, yn hawlio cefnogaeth pob Cwrdd Chwarter. Diolch i Mr. Parry am ddechreu. Gwn y bydd yn dda genych weled y llythyr sy'n canlyn am ei fod mor ddyddorol :—" Yr wyf yn methu atal heb ddyweud gair am y Cronicl yn ei wisgnewydd. Sylwaswn ar eich addewid am gyfnewidiad a gwelliant ynddo, ond ni freuddwyd- iaswn erioed am gymaint gwelliant ag a gymerodd le wrth i'r Cronicl newid ei ganrif. Nid wyf yn hen, eto medraf fyn'd yn ol i hanes y Cronicl mor bell a'r blynyddau y bu ei hen olygydd parchus a'i gymdeithion yn Tennessee. Nid oeddwn'ond llanc ar y pryd, ac yn ngwasanaeth y diweddar David Lewis, Ysw., Penrhyn, Gwynfe. Arferai efe ddyfod i lawr atom i'r gegin yn aml, i adrodd hanes S. R. a G. R. a'i deulu, o'r Cronicl. Cydymdeimlai efe i'r byw a'r Brodyr yn eu profedigaethau. Ac oddiar hyny hyd yn awr, yr wyf wedi bod yn gefnogwr ffyddlon i'r Cronicl- Bum yn dderbyniwr o hono am tua 35 mlynedd, a bum yn ei ddosbarthu am bedair blynedd a'rhugain. Derbyniais " Gronicl Canol y Mis " hefyd er pan gychwynwyd ef hyd nes y peidiwyd a'i gyhoeddi. Ond am y Cronicl yn ei ffurf newydd y dechreuais fy llythyr, a rhaid i mi beidio crwydro rhagor." # # " Pan estynodd y dosbarthwr y Cronicl i mi y dydd o'r blaen gofynais iddo yn syn, ' Bet'hyw hwn ? ' Atebodd yntau, ' Y Cronicl! ' Edrychais arno eilwaith gyda mwy o amheuaeth na'r tro cyntaf. Yr oeddwn yn barod i gymeryd fy llw nad oedd un berthynas rhwng y ' Cronicl bach' a'r cylch- grawn a gefais o law y dosbarthwr. Ond dodais ef yn fy llogell, ac i ffwrdd a mi adref, heb edrych yn rhagor arno nes cyrhaedd y tỳ. Y peth cyntaf a ddywedodd fy ngwraig ar ol i mi eistedd a thynu y rhifyn allan oedd ' Beth yw hwna s\rdd genych ? ' Ateb- ais inau, ' Y Cronicl' a chan ei syndod nis gallai fy ngwraig ychwanegu dim ond ' Wel! Wel !' Dechreuais droi i'w chwilio am ( Nodiadau Reinion/ a ' Hanes y Mis,' a 'Chof a Chadw,' a chefais hwy oll ynddo, ac yn fuan daethum ar draws enw Eynon. Erbyn hyn yr oeddwn yn dechreu darllen y 'Nodiadau,' ac yr oedd yn rhaid i mi gredu bellach mai yr hen Gronicl mewn gwirionedd oedd yn fy nwylaw. Daeth i fy nghof wrth edrych ar wisg