Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GRONICL^ Rhif 68i.] IONAWR, 1900. [Cyf. LVIIÍ. NODIADAU ENWADOL. YR hen gyfaill yw hwn mewn gwisg newydd. Deil y Cronicl i dyfu er dros ei haner cant oed. Wrth y fodfedd neu'r haner modfedd y cyn- yddodd hyd yn hyn. Heddyw neidiodd i fyny amryw fodfeddi. Eto, nid yn ol maint y mae mesur nerth a gwas- anaeth. Ar yr un pryd credwn y bydd i'r plyg mwy helpu ein derbynwyr ffyddlon i ddygymod a'r cyfnewidiad allanol sydd yn eu hen gyfaill. Bydd i ddalen o'r mesur yma ein galluogi i ddefnyddio llythyren newydd glir a phrydferth, ac felly symud cwyn rhai o'n ffyddloniaid oedranus nad yw eu golygon cystal yn awr ag y buont un- waith. Yr ydym yn hyderu y bydd i'n hymdrech i gyfarfod a'r ganrif newydd mewn modd teilwng enill i ni hefyd gefnogaeth llawer o gyfeillion newydd- ion. Caiff y dysgedigion benderfynu pa bryd y mae'r ganrif newydd yn dechreu; penderfyna'r Cronicl fod yn barod i'w derbyn pan y daw. Ac i wneud hyny yn galonog, rhaid i ni gael help aelodau ein heglwysi. Yr ydym yn meddwl fod genym beth hawl i gefnogaeth yr eglwysi oblegid ein bod yn amcanu rhoi yr elw o hyn allan i helpu'r achosion gweiniaid. Eto nid ydym yn apelio am i'r cyhoedd brynu y Cronicl er mwyn yr achosion gwein- iaid yn unig. Yr ydym yn ystyried y bydd yn werth yr hyn a delir am dano. Mae'r trefniadau a wnaethom i sicrhau help y llenorion sydd a'u henwau ar ei rhaglen yn ddigon o warant o hyny. Gorfodir llawer o'n gweinidogion yn Neheu Affrica i adael eu cartrefì a'u meusydd llafur. Rhaid i'r ychydig a gawsant ganiatad i aros, ddyoddef yn fawr oherwydd y drudaniaeth. Apelia'r Parch. Burford Hooke am help i'n brodyr sydd yn nghanol gwasgfa y rhyfel. Nis gall ein Cymdeithas Gen- hadol i'r Trefeaigaethau roi dim iddynt o'r arian a dderbyniant at amcanion y Genhadaeth. Nid yw cyllid y Gym- deithas hono yn ddigon i gyfarfod a'r treuliau arferol. Prin y mae cwmwd o Gymru heb fod rhywrai wedi myn'd ohono i Ddeheudir Affrica, a gallant yn awr fod mewn enbydrẃydd mawr. Felly mae gan apel Mr. Hooke hawl i guro wrth ddrysau y Cymry. Ac y nrae rheswm äràll dros i'r Anibynwyr Cymreig gefnogi y casgliad hwn. Gallant fentro y gwerir yr arian yn ddoeth a diwastraff. Ni charwn ddy- weud dim a dueddai yn y mesur lleiaf i atal ffrwd gref haelioni y cyhoedd at y dyoddefwyr yn y wlad draw, ond gwyddom fod symiau mawr o arian yn cael eu cam-drin weithiau. Bydd y sawd hon o dan ofal Mr. Hooke a gweinidogion Anibynci, ac felly mae genym bob sicrwydd y rhenir hi yn desr. # # l'n o destynau y cyfarfod mawr o Anibynwyr y Byd a gynhaliwyd yn Boston oedd " Addysg ein Gweinidog- ion." Dywedwyd yno bethau cryfion yn ngh)dch casglu i helpu'r myfyrwyr.