Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Ehif 644.1 RHAGFYR, 1896. [Ctf. LIV. NODIADAU ENWADOL. O holl ysgrifau da Ceninen Hydref credaf mai ysgrif Dr. T. C. Edwards ddylai gael sylw mwyaf crefyddwyr Cymru. Dyma rai o'i sylwadau, " Nid yw yn anmhosibl i Gymru droi eto yn ddigrefydd ac yn anfíyddol. Y mae cristionogaeth mewn rhai gwledydd wedi colli y tir a enillasai unwaith. Ac os cyll Cymru ei chrediniaeth o'r efengyl ar ol y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynddi, y mae yn sicr hollol y bydd ein gwlad yn fwy anghrefyddol ac yn fwy annuwiol nag y bu erioed o'r blaen. Wedi ei dyrchafu hyd y nef hi a dynir i lawr hyd yn uffern. Nid yw ein bod wedi cadw rhag i'r drwg hwn ein dyfetha na'n llyncu hyd yma yn un sicrwydd am ein diogelwch yn y dyfodol. Braidd na theiralem duedd ambell waith i ymresymuoddiwrth ein cysur yn yr amser a aeth heibio, nad yw y cyfnewidiad ddim yn mhell. . . Nid yw yn anmhosibl na ddaw cyfnod o anghrefydd dros ein gwlad eto. Ond ar ei ol yntau daw cyfnod arall, yn yr hwn y clywir y duliw drachefn. Daw gwawr ar ol pob nos, a haul ar fryn ar ol pob tymestl." Geiriau cryficn wedi eu hysgrifenu, y mae'n amlwg o dan deimlad dwys, yw y rhai hyn. Rhed iasau oerion drosom wrth eu darllen. Cymru eto yn gwynebu'r nos ! Gwlad y Beibl a'r Ysgol Sul i droi yn ddigrefydd ! Gwlad y Cymanfaoedd Pregethu a'r Cymanfaoedd Canu Cyssegredig i fynd yn anffyddol. Gwir fel y dywed Dr. Edwards i wledydd eraill fuont lawn mor agos i'r ncfoedd a ninau gael eu darost- wng yn isel iawn. Ond nid am íod llanw crefydd wedi codi mor uchel yn Nghymru y teimla Dr. Edwards bryder rhag i ni syrthio yn ol eto i sefyllfa annuwiol fel gwlad. Tuedd naturiol dyn fo wedi gweithio ei hun i hwyl fawr ydyw syrthio yn ol i dawedogrwydd a difaterwch. Eto nid yw Dr. Edwards yn seilio ei ofnad yn nghylch crefydd Cymru yn y dyfodol ar ddeddf llanw a thrai, ond chwilia am yr achos mewn cyfeir- iadau eraill. # * • Dywed yn eglur mai y rheswm paham yr ofna i'r nos ddal Cymru ydyw bydolrwydd rhai o'n pregethwyr a'n lleygwyr. " Yr hyn sydd yn bwyta nerth yr eglwys, ac yn llwyr ddyfetha dylanwad cristionogaeth ydyw, bydolrwydd, ariangarwch, budrelw, cybydd-dod, culni, a hunan-