Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Y CRONICL. Rhip 643.] TACHWEDû, 1896. [Cyf. LIV. NODIADAU ENWaDOL. " Llenyddiaeth enwadol," meddai pobl ! Eto chwi synech gan lleied sydd yn enwadol yn ein llenyddiaeth gyfnodol. Golygydd Trysor/a'r Plant, cylchgrawn Methodistaidd, yw'r Parch. T. Levi, Aberystwyth, ond rhyfedd can lleied o ddim enwadol sydd yn y detholiad a wnaed o'r caneuon a ysgrifenodd i'w gylchgrawn o dro i dro, a'r rhai a gyhoeddir yn awr gan ei fab yn ei Caneuon Cyniru. Yn wir, nid oes sawyrenwad- aeth ar ddim a geir yn mysg cynyrchion y Golygydd haeddbarch, a gwnaeth ei fab gymwynas a'r cyhoedd drwy gyhoeddi caneuon Mr. Levi gyda'i gasgliad o Ganeuon Cymru. Gresyn na chaem lyfr o gan- euon Mr. Levi ei hun. Dangosodd y casglydd chwaeth dda hefyd wrth ddethol damau byw a phrydferth o fysg Gemau yr Awen Gymreig. A dangosodd nid yn unig chwaeth dda, ond ysbryd eangfrydig. Ni chy- fyngodd ei hun i enwad na phlaid. Chwiliodd am y perlau prydferthaf, ac aeth i bob trafferth i dd'od o hyd iddynt. A gwiw y dywed y casgl- }'dd ei bod yn glod i Gymru y gellir gwneud casgliad mor helaeth o gyfansoddiadau mor rhagorol, mor fyw o'r wir awen, mor bur eu chwaeth, ac mor grefyddol eu hysbryd. Yr ydym yn credu y gwna casgliadau o'r fath yma lawer iawn o les. Byddant yn foddion i'n cadw i lynu wrth ein hen iaith anwyl, ac yn help i ganfod ei rhagoriaethau. Byddaut hefyd o wasanaeth i gyfarfodydd llenyddol a ch^'farfod^'dd adrodd. Nid y cyntaf o'r math yma o lyfrau yw un Mr. Levi, ac ym- ddengys mai nid yr olaf ydyw, er mai yn Ionawr y flwyddyn hon y cy- hoeddwyd ef. Cefais hysbysiad y dycld o'r blaen fod gan Mr. W. Lewis Jones, M.A., athraw mewn Seisnaeg yn Mhrifysgol y Gogledd, lyfr o ganeuon Cymreig yn y wasg, ac y bydd allan ar fyrder. Rhwng pawb daw yr hen Gymraeg i fwy bri nag erioed. Uwchlaw y cwbl ymfalchiwn yn y ffaith fod genym gynifcr o ddarnau penigamp heb yr arwydd lleiaf o ol llaw enwadaeth arnynt. Beir ni yn aml fel cenedl ein bod wedi ymranu i gynifer o bleidiau crefyddol, ond gallwn ym- ffrostio beth bynag mewn cancuon sydd yn eiddo c^'ffredin i'rgenedl oll. # * # # Nid yw y Senedd wrth ei gwaith. Prin yw deunydd papurau new- yddion. Y bytaten fawr, yr eirin Mair S)Tdd gymaint ag wyau. neu'r