Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GRONICL. Rhif 642.1 HYDREF, 1896. [Ctf. LIV. NODIADAU ENWADOL, Cefais lythyr oddiwrth fy nghyfaill J. Myrddin Thomas, o'r Wydd- grug yn fy hysbysu ei fod ar symud i fyw i Gaerfyrddin. Bydd yn chwith genyf ei golli o'r Gogledd, er mai anaml y byddem yn cael y pleser o gyfarfod ein gilydd serch ein bod yn byw yn yr un Dalaeth. Hwyrach y cawn gwrdd yn amlaeh bellach wedi i Mr. Thomas fynd i'r De. Bydd pobl y Gogledd yma yn myn'd i eithafion y De i geisio pregethwyr eu cyrddau mawr, a phwy a wyr na bydd Mr. Thomas yn bregethwr ein cyrddau cyhocddus wcdi symud o hono mor bell a Chaerfyrddin. Gwr cryf yw efe, yn ddiau : nid oes genym lenor yn ein henwad medrusach nag ef. Tuedd naturiol Mr. Thomas yw cilio o'r neilldu, a thrafterth fawr yw ei gael i ysgrifenu dim i'r wasg. Y mae genyf mewn hen lythyr addewid am gyfresau o ysgrifau ganddo ar bynciau tra dyddorol, ond addcwid farw ydyw hyd yn hyn. Hwyrach i'w efrydiaeth o'r gynghanedd gaeth dynu min oddiar ei ysgrifell, a sefydlu ei sylw yn ormodol ar gleciadau y cydseiniaid. Ai tybed na dynir y rhwd oddiar ei ysgrifell wedi iddo fynd yn ol i fyw i'w hen ardal cnedigol ? Nid yd^mi wcdi cael ganddo eto waith sydd yn deil- wng o'r ddysgeidiaeth a'r medr sydd wedi ei hymddiried iddo ; wrth gwrs yr wyf yn siarad i raddau o dan fy nwylaw, oblcgid nis gwn a ocs ganddo ar y blocks lyfrneu arall y golyga ei ddwyn drwy'rwasgrywbryd. Cyfeirio yr wyf yn benaf at ein cyfnodolion enwadol a chenedlaethol. Dylai enw a gwaith Mr. Myrddin Thomas ymddangos yn y rhai hyn yn amlach. Dymuna'r Cronicl bob dedwyddwch iddo yn y De. # # # # Nid yn aml y bydd enw dyn cyhoeddus, yn eawedig gweinidog Cymreig gyda'r Anibynwyr, yn cael ei gysylltu a'i breswylfod. Fynychaf cysylltir enw gweinîdog ag cnw ei gapel neu y dref y bo'n byw ynddi. Eto bydd yn dygwydd fel arall weithiau. Ag enw ei gartref, ' Tan- ymarian," y cysylltid y diweddar Mr. Stephea : ag enw ei dyddyn ' Cae Coch ' y cysylltid enw y diweddar Barch. John Williams, ac fel Mr. Thomas Jones, Eisteddfa, yr adwaenid y gweinidog da a gladdwyd y mis diweddaf. Nid ocdd neb yn ei adnabod fcl Mr. Jones, Tabor, na