Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CHONICL Rhif 641.1 MEDI, 1896. [Ctf. LIY. NODIA.DAU ENWADOL. Dylai ein heglwysi hynaf, sydd ag hanet iddynt, efelychu gwaith yr Eglwys yn Neuaddlwyd. Cyhoeddodd yr eglwys yno lyfr yn cynwys hanes y cyfarfodydd a gynhaliwyd i ddathlu trydydd jiwbili sefydliad y diweddar Dr. Phillips yn weinidog yr eglwys. Cynhaliwyd y cyrddau Ebrill 6ed, 1896. Yn nechreu y llyfryn sydd ger ein bron, ceir bras olwg ar hanes yr achos yn Neuaddlwyd, ac wedi anerchiad byr gan yr Hybareh William Evans, rydd y Parch. J. M. Prytherch, Wern, hanes Anibyniaeth yn Ngheridigion yn ystod y ganrif hon. Yna traetha'r Parch. B. Phillips, rnab Dr. Phillips, ei adgofion am Neuaddlwyd. Ceir cipdrem wedyn ar hanes Dr. Phillips, gan y Parch. J. J. Jones, B.A., Rhydybont. Olrheinia'r Parch. D. Cadíwlch Davies, Cilcenin, hanes dylanwad eglwys Neuaddlwyd ar y wlad, a'r Parch. O. Lloyd Owen,. Ceinewydd ei dylanwad ar y Maes Cenadol. Manteisodd y Parch. Carolan Davies, ar y Jiwbili i ddangos peryglon Ymneillduaeth, a Mr. Morgan Evans, Y.H., i draethu ar ein rhwymedigaeth i fod yn ffydd- lawn i egwyddorion y tadau. Ac i ddiweddu dodir dwy bregeth a draddodwyd ar yr achlysur gan y Parchn. O. R. Owen, Glandwr, a B. Davies, Trelech. Y mae darluniau o'r Parchn. William Evans, Gwilym Evans a Jones, Madagascar, yn y llyfr ac ychwanegant at ei werth. Diau fod llawer o hanes ein heglwysi wedi myn'd ar goll oherwydd yr esgeulustra sydd wedi ei ddangos i gadw cofnodion ac i gyhoeddi eu hanes. Gwyddoch nad oes dim a rydd fwy o ysbrydiaeth i grefyddwyr ieuainc na darllen hanes y gwrhydri a wnaeth y tadau dewr. Gofaled llenorion ein heglwysi am roi y prif digwyddiadau ar gof a chadw, fel y bo genym lenyddiaeth yn perthyn i'r eglwysi Anibynol gwerth ym- ffrostio ynddi. Nid cadw enwau dynion yn fyw yw'r amcan, er fod hyny yn dda. Tybiaf mai nod penaf y cyfan yw gogoneddu Duw drwy ddangos yr hyn a wnaeth ac a wna Efe i ni. # * * # Yr wyf yn llawenhau wrth wel'd yr ymdrech sydd i godi capeli ac ysgoldai newydd mewn gwahanol ranau o Gymru. Arwydd fod ein.