Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif 640.1 AWST, 1896. [Ctf. LIV. NODIADAU ENWADOL Oni ellir dwyn tystiolaeth j-sgrifenedig neu argraffedig i vvirionedd unrhyw haeriad ni ddyhd ei gyhoeddi. Yn wir dylai dynion íod ar eu gocheliad rhag rhoi llafar i ddim na bo ganddynt berflfaith sicrwydd, ie a phrawf ar ddu a gwyn, o'i ddilysrwydd. Dyddiau dwyn y pethau dirgel i'r amlwg yw y dyddiau h}rn, ie, dyddiau profi pob peth. Pan eir i haeru pethau mawr am y marw gweddai i ni gymeryd pwyll. Fe gyhoeddodd Gwyneddon yn y Geninen lythyrau cyfrinachol o eiddo'r diweddar Dr. Ioan Llcwelyn Evans, oeddynt yn cynwys cyhuddiadau enbyd yn erbyn y d'wcddar Iorthryn Gwyncdd. Yr hyn oedd yn feius yn ngwaith Gwyneddon oedd iddo gyhoeddi'r cyhuddiadau wcdi i Iorthryn Gwynedd farw. Nis gwn a oes gyfaill i Iorthryn a wyr am yr helynt y cyfeirîa'r llythyrau hyny ato, ac a ddaw allan i glirio cymeriad ein hen ohebydd. Ofni yr wyf nad oes neb yn fyw yn awr a fedr roi hanes y gystadleuaeth a r amg^dchiadau yn nglyn a hi, ac felly rhaid i goffadwriaeth y cywir Iorthryn ddioddef, o herwydd anoethineb Gwyn- eddon. Da genyf na bu enw da y diweddar Dr. Thomas Rees mor ddi-darian. Cyhocddasai rhai Bedyddwyr, wrth eu hoffder, ddarfod i Dr. Rces amcanu, nid troi ei gôt, ond ei throchi a bwrw ei goelbren gyda'r ddiadell yn Hengoed. Daeth llu o wyr da eu gair allan i am- ddiftyn coftadwriaeth y marw, ac er nad oedd ganddynt benod ac adnod dros ddyweud Na, mwy nag oedd gan y cyhuddwyr dros ddyweud Do, eto dangosasant mor ddisail oedd tybied i Dr. Rees erioed ddangos ochr i gofleidio'r droch. Gobeithiaf y bydd ysgrifau Gol. y Celt, y Parch. Cadwaladr Tawelfryn Thomas, a gohebwyr eraill yn rhybudd i bawb rhag rhuthro i haeru pethau nas gellir eu profi. Pa bryd y daw Cymru yn lân oddiwrth enllibwyr cnafaidd ? Ie, ac oddiwrth y dosbarth hwnw hefyd o gŵn y fall, na feiddiant gyfarth ar faes y wasg, ond a dirgel gnoant gymeriadau dan gochl cronglwydydd, ac yn nghudd-gelloedd cyfeillachau sych-grefyddol a Phariseaidd. Chwi ystungwyr ffeilsion gwnewch frad cant o frodyr 1 O ! na ellid adnabod eich wynebau, a'ch nodi fel ellyllon gwahanglwyfus, heb fod genych hawl i dd'od i gyfathrach y pur a'r diniwaid ?