Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y O R O ]NÍI C L. Rhif 639.] GORPHENAF, 1896. [Ctf. LIV NODIADAU ENWADOL. Gwelais y llyfr Tonau ac Emynau a baratowyd ar gyfer y pwlpud gan- bwyllgor y Caniedydd. Yr wyf yn hoffi yr argraff, ac yn hoffì y rhwymiad. Nid oes diffyg ar y celfyddydwaith. Un gwyn sydd genyf yn erbyn y llyfr.—Y mae yn rhy fawr ac anhylaw. Yr ydym wedi arfer gyda llyfr emynau Stephens a Jones mor hir, fel mae myn'd yn ol at lyfr sydd agos yr un blyg a hen lyfr S. R., yn orchwyl chwithig. Beth. pe byddem yn cael llyfrau i'n pwlpudau heb y tonau ynddynt ? Yr wyf yn erfyn ar y pwyllgor i gyhoeddi argraffiad mwy hylaw o'r Canied- ydd ar gyfer y pwlpud mor fuan ag y gallant. Mantais ddirfawr hefyd fyddai cyhoeddi llyfr bychan o emynau, cymhwys i'w gario yn mhoced gwasgod. Yr wyf yn meddwl y byddai'n pobl ieuainc yn debyg o werthfawrogi llyfr o'r maint hwnw. A bendith i bobl ieuainc ydyw dysgu penillion da ar eu cof. Yr ydych wedi darllen pa fodd y cariai Ap Vychan ac Evan ei frawd lyfr emynau gyda hwy pan ar daith gardotawl tua Aberystwyth. " Yr oedd genym " medd yr hen batriach anwyl yn ei " Gofnodion Byrion," " Feibl bychan a llyfr hymnau i'w darllen, ac i ddysgu allan o honynt, yn ein hysgrepan." A phan ddaethant at afon Dyfi ac i foneddwr tirion eu holi, parodd eu gwaith yn adrodd penillion iddo agor ei galon a thalu'r cwch dros y plant. Ac nid y Dyfi yw'r unig afon y bu penill yn help i grefydHwyr ei chroesi. Na phrinhaed pwyllgor y Caniedydd arnom mewn argraffìadau hylaw o'r llyfr emynau. # * * * Byddaf yn meddwl weithiau fy mod yn adnabod mwy o bobl yn y nefoedd nag a adwaenaf ar y ddaear. Dau, ie, tri sydd wedi eu cymeryd oddiarnom yn y mis diweddaf. Adwaenwn yr henafgwr o Penybont- fawr: cyfrifwn Jones, Llwyncelyn yn gyfaill hoff, ac anwyl iawn genyf oedd Dafydd Harold bach o Ferndale. Er yn gryf a heinyf yr oedd Mr. Roberts, Penybontfawr wedi cyrhaedd oedran teg. Dyn a weithiodd yn galed ydoedd. Cymerodd afael tyn yn y byd a'i amgylchiadau, a gwnaeth ei oreu o'r ddau fyd. Yr oedd yn bregethwr da, ac yn feddyl- iwr cryf. Cyhoeddodd gyfrol o bregethau flynyddau yn ol sydd yn