Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL Rhif G38.1 MEHEFIN, 1896. [Cyf. LIV NODIADAU ENWADOL. "Aml gnoc a dyrr y gareg," ac am hyny hyderaf na flina fy narllen- wyr ar hen stori. Hen bwnc bellach y\v cael llenyddiaeth Gymreig i'r Gymdeithas Genhadol. Pasiodd Arfon ei anfon i'r Undeb. Nid wyf yn gredwr yn yr Undeb. Myu fy nghyfaill y Parch. D. II. Williams, M.A., Ebenezer, mai fy nieithriwch i'r Undeb a bair hyny. Nid wyf am ddadleu ag et, ond gobcithiaf ei fod yn iawn ; oblegid ni hüffwn wel'd y mater yn cael ei gladdu yn Penybont-ar-Ogwy. Yr wyf yn cwbl gredu mai nid ar Mr. Williams, na'i gyd-genhadwr Mr. Jones, Bangor, y bydd y bai os y caiíf ei gladdu. Y mae'r ddau yn selog drosto. Ŷsgrilcnodd Mr. Williams eiriau teg a chryíìon arno i'r Tyst, ac nid yw Mr. Jones yntau wedi celu ei argyhoeddiadau ar y pwnc. Pe chwilid Gwynedd oll ni chcid dau yn credu yn llwyrach yn eu dadl. Yr unig ystyriaethau sydd yn pcri i mi wahaniaethu oddiwrth y brodyr a anfonasant y mater i'r Undeb ydynt :—i. Penderfynodd Arfon yn unfryd beth a wnaent pe pallai'r Cyfarwyddwyr a gwrando ar ein llais. Yr ydym wedi ymdyng- hedu i gyhoeddi llcnyddiacth ein hunain. Nis gellir gwadu hyn, ac nid oes angen am i neb ei wadu. 2. Byddai Arfon pe wedi cario allau ei phenderfyniad eisoes yn esiampl i ranau eraill Cymru. Oes yr objcct lessons yw hon, a byddai gwers ar gynydd casgliadau darn o wlad, íel canlyniad cael llenyddiacth Gymreig, yn sicr o iod yn efíeithiolach na dim ellid ddangos i'r Cyfarwyddwyr. 3. Credaf, os oedd eisiau barn yr Undeb, mai cyn i ni wneud ein pcnderfyniad, ac nid wed'yn, y dylasid gofyn ain ei farn. 4. Os bydd barn yr Undeb yn groes i'n barn ni, pa bcth a wnawn wed'yn ? Nid wyf yn tybio y bydd i gyfarfod o frodyr goleubwyll fel arweddwyr yr Undeb, daílu ein penderfyniad o'r neilldu. Ond tybiwch fod nifer o swyddogion sydd am Seisnigo lioll beirianwaith y Gymdeithas, yn dylanwadu ar nifcr o wyr blaenllaw yn yr Undeb, a bod penderlyniad Arfon yn cael ei daflu dros ybwrdd-—ac y maehyny'n bosibi— oni byddai peth o'r fath yn debyg o wanio rhai yn Arfon ? Mewn gair, yr ydym wedi gwthio'r cwch i'r dwfn, wcdi trcfnu'r dwylaw, a'r gwaith sydd i'w wneud, ond ar yr unfcd awr ar ddeg yn pallu hwylio heb i'r Undeb gymeradwyo'n gwaith. Tybygaf glywed yr Undeb yn