Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif 637.1 MAÍ, 1896. [Cyf. LIV. NODIADAU ENWADOL Y ddrama yw pwnc ydydd yn awr yn Nghymru. Prin yceir cwmwd heb nifer o blant, a phoDl ieuainc sy'n gallu actio "drama" neu "ddadl." Gwnaeth y Cronicl lawer i feithrin yr ysbryd. Cyhoeddwyd, fiynyddau yn ol, lawer o ddadleuon crefyddol a moesol, yn ei golofnau. Yr oedd J.R. yn gallu gwneud hanes ysgrythyrol yn íyw a "diweddar" iawn, a'i ddawn naturiol. Diau iddo gymeryd gwers yn hyn oddiwrth Ober- amagau, ac hwyrach fod hen Interliwdiau Twm o'r Nant wedi dangos iddo y ffordd, yr oedd chwaeth y bobl yn rhedeg. Nid yn unig cawsom "ddramäu crefyddol," ond cawsom hefyd rai moesol wed'yn tebyg i " Prawf Shon Heidden," " Dic Shon Dafydd," " Rhys Lewis," &c. A'r un bobl wrth gwrs sydd yn cefnogi y rhai'n; ie, cysylltir hwy a'r capeli. Wrth weled pobl grefyddol yn ymroddi cymaint i feithrin a chefnogi y ddrama, cyfyd gofyniad tebyg i hwn, " Beth yw cenhadaeth yr eglwys ? " Nid oes eisiau bod yn athronydd nac yn dduwinydd i ateb. Neges yr eglwys yw cario allan genhadaeth Crist, a neges Mab y dyn, oedd d'od i geisio a chadw yr hyn a gollasid. Cyfyd gofyniad arall yn ymyl yr un aofynais gyntaf, " Pa fodd y deuir o hyd i'r colledig?" Nid yw yn hawdd iawn d'od o hyd i'r bobl sydd ar goll. Nid oedd y bobl sydd ar goll drwy y ddiod feddwol yn d'od i wrando arnaf fi pan fyddwn yn areithio ar ddirwest, ond pan fyddwn yn rhoi "ocsiwn" ar dŷ tafarn, deuai canoedd i'm gwrando. Ac yr wyf yn credu yn yr hen gynghor oedd yn dyweud, sut i ffrio pysgod—" Yn nghyntaf, rhaid dal y pysgod." Rhaid cael y bobl i gyrhaedd y bachau. Rhaid dal y bobl cyn y gellir eu hachub. Dichon y daw mwy o bobl i wrando ar "Brawf Syr John Heidden" nag a ddaw i gwrdd dirwestol, a rhaid cael y glust cyn y gellir gobeithio enill y galon. Ond dylem wrth roi lle i'r ddrama, beidio rhoi mwy na'i lle iddi. Gwna rhai eglwysi hi yn gyfrwng i dalu dyledion eu capeli; y cyngherdd a'r ddrama yw'r moddion ddefnyddir i dalu dyled. Ond gwelaf fy mod yn agor pwnc mawr, a rhaid i mi orphen fy nodiad gyda dyweud y byddaf yn aml yn dychymygu beth a ddywed- asai'r Apostol Paul, pe cynygiasai'r eglwys yn Ephesus dalu ei dyled drwy roi perfformiad o rywbeth tebyg i " Rhys Lewis."