Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

V C R O N I O L. Khif 636.1 EBRILL, 1806. [Cyb\ LIV. NOOIADAU ENWADOL. " Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir;" yr oedd y gyfraith yn dyweud hyny, a dywed yr efengyl yr un pcth, " Canys y tlodion sydd gyda chwi bob amser." Aeth Deddf y Tiodion a rhagorfraint fawr oddiar yr Eglwys, gan orfodi pawb i daìu treth, at gynal yr anghenus, ac felly lladd hyny o rinwedd oedd yn y peth. Nid wyf yn synu i'r wlad ofni cysylltu cynhaliaeth y tlawd a chrefydd, wedi y profiad chwerw a gafwyd yn ngwaith y clerigwyr yn llyncu cyfran y tlawd o'r degwm. Ond pan ddaw y mil blynyddoedd, bydd cynal y tlawd, nid yn dreth ond yn fraint. Ie, ond a fydd tlodi yn y mil blynyddoedd, medd- ech chwi ? " Ni dderfydd y tlawd o'r tir," medd y Beibl, a rhaid i chwi gofio fod Cristionogaeth yn meithrin tlodi i raddau mawr. Yr oedd gan y byd paganaidd fì'ordd effeithiol iawn i ladd tlodi. Dysgai paganiaeth y rhieni i ladd eu plant : yr oedd paganiaeth yn niweidio moesau, ac yn gwanhau cenhedloedd cryíìon, gan ledu heintiau, afiechyd,a marwolaeth drwy'r gwledydd. Teuluoedd mawrion sydd yn y gwledydd lle mae'r Efengyl : yn y gwledydd hyny y ceir ysbyttai, a nawdd-dai, a bwyd- dai, a threfniantau rhesymol i gyfarfod tlodi. Ond y pwnc i ni yw, nid beth fydd yn y mil-blynyddoedd, ond beth sydd yn awr. Wel, tlodi; " canys y tlodion sydd gyda chwi bob amser." Ydynt, ac nid yn unig y mae eu hocheneidiau yn codi rhwng bryniau Cymru, ond daw yr awelon, a llef angen Cristionogion Armenia, i'n clustiau bob dydd, a da genyf wel'd fod cynifer o'n heglwysi wedi gwrando ar y llef, ac wedi cyfranu mor hael. Beth y mae hyn yn ei ddyweud ? Dyweud y mae, nad yw'r gwir dduwiol ddim yn meddwl fod ei gyfrifoldeb i'r tlawd yn darfod wedi y talo ei dreth-tlodion. Mae Duw yn cadw cyfrif manyl- ach na dyn. Deunaw ceiniog yn y bunt, y mae cybydd sydd yn werth ei filoedd, yn dalu o dreth, yn Mhlwyf ------------, ac y mae yn byw mewn bwthyn gwael rhag iddo dalu rhent, a threth fawr. Haner coron yn y bunt yw'r dreth yn Mhlwyf ------------, lle mae dyn od o hael yn byw, a chan fod ei dŷ yn dŷ cysurus a helaeth, tala dreth drom. Ond nid yn Nhlotai'r Undebau y mae holl gwarcheidwaid y tlodion yn cwrdd. Duw yw eu Gwarcheidwad hwy. Mae llawer o dlodion y wlad yn dlodion cyfoethog, ac yn llawer dedwyddach na'r eyfoethogion