Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif 635.] MAWRTH, 1S96. [Ctf. LIV NODIADAU ENWADOL. Anogodd un llenor profiadol fi, i gyhoeddi cyfres o ysgrifau ar hen gartrefi pregcthwyr yn Nghymru, yn cynwys hanes y teuluoedd caredig a groesawent ddieithriaid fyddent ar grwydr. Bydd yn dda genyf wneud hyny pan ddelo egwyl, ac i aros yr amser hwnw goridefwch i mi ysgriienu gair neu ddau ar letygarwch. Dygwyd y pwnc i'm sylw gan lythyr yn y Tyst, dro yn ol. Nid oes a fynwyf a'r ddadl, a gynyrchwyd gan yr ohebiaeth hono. Ac ni fynwn redeg ar linellau culion urdd, neu un dosbarth o bobl, wrth anog i letygarwch. Y mae ar rai dynion da heblaw pregethwyr angen myn'd oddicartref weithiau, a bydd eisieu bwyd a llety arnynt. Paham na fyddai i bob teithiwr sy'n gwasanaethu y cyhoedd, dalu am ei Iwyd a'i lety yr un fath a'r commercial travcllersy meddech chwi ? Y cwestiwn yw, pwy sy'n talu costiau'r traveìlers hyn ? Onid y prynwyr ? Sicrha'r teithiwr masnachol ei fwyd a'i ddiod, cyn y gwertha yr un gciniogwerth o'i nwyddau. A'n perygl ni yn yr oes hon yw gwneud bywyd oll yn beiriant mawr, tebyg i'r peiriant mas- nachol. Dyna ducdd dcddfwriaeth, a beth yw y canlyniad yn nglyn ar pwnc o dan sylw ? Rhoi bodolaeth i'r creadur anymunol, y proý'esional tramp. Pe nodweddid ein bywyd crefyddol, a mwy o symledd a char- edigrwydd agored, byddai llai o eisieu y pcirianol. Gorchymynir llety- garwch yn fwy pendant yn y Testament Newydd, nag yn yr Hcn Dest- amcnt. Yr ocdd llai o'i angen yn nyddiau'r apostolion nag yn nydd- iau'r partriachiaid, oblegid yr oedd cymdeithas yn fwy gwareiddiedig. Eto edrychir arno fel rhinwedd cymdeithasol, a gorchmynir ef yn gaethach. Onid yw y S imariad trugarog yn ddrych o letygarwch Cristionogol ? Dylem gofìo geiriau ein Blaenor mawr, " Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i : a'r neb sydd yii fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr Hwn am daufonodd i—a phwy bynag a roddo i'w yfed i un o'r rhai bychain hyn, phiolaid o driwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi ni chyll efe ei wobr." Ac i mi, y mae'r ffaith, i ddiffyg dangos letygarwch, gael ei ddcfnyddio i ddarlunio gwaith dyn yn esgeuluso Crist, yn gosod allan yn gryf iawn bwysigrwydd dirfawr y ddyledswydd. " Bum ddieithr ac ni ddygasoch fì gyda chwi." Ond ni ychwanegaf ddyfynu adnodau, cawsoch ddigon yn b*rod. Gellir dadleu