Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Ehif 634.] CHWEhROR, 1896. [Ctf. LIV. NODIADAU ENWADOL. Geilw'r Parch. T. Lloyd Jones, B.A., B.D., sylw yn y rhifyn hwn at fyfyrwyr duwinyddol Cymru, a'r radd dduwinyddol yn Mhrifysgol Cymru. Ymddengys fod angen mawr gwyntyllio y pwnc, oblegid nid yw arweddwyr yr enwadau Cymreig ddim wedi d'od i feddu gweledig- aeth eglur arno eto. Dywedodd gohebydd yn y British Wcckiy, nad oedd un Coleg Duwinyddol Cymreig a fedrai baratoi dynion ar gyfer y radd o B.D. yn y Brifysgol Gymreig. Ond etyb y Parch. J. Douglas Watters, Ysgritenydd Bwrdd Duwinyddol y Brifysgol Gymreig, fod pump o'r colegau wedi amlygu eu parodrwydd i gymeryd at y gwaith, ac íod dau o'r colegau cisoes yn myn'd i anfon chwech o fyfyrwyr rhyngddynt, i'r arlioliad cyntaf yn Mehefin nesaf. Nid ydym yn myn'd i gyffwrdd a phwnc y ddadl. Amlwg yw ein bod wedi prynu ceffyl cyn dysgu marchogaeth. Amcan y gair sydd genym ni i'w ddyweud ar y mater, yw galw sylw at y frawddcg a ganlyn yn ysgrif Mr. Lloyd Jones :—" Y drwg yw nid nad yw yr athrawon yn y Colegau hyn (sef Colegau Duwinyddol Cymru) o bosibl yn ddigon cymhwys i gyfranu yr addysg anghenrheidiol, ond y bydd yn ormod o anhegwch a'r myfyrwyr cyffredin (hyd yn nod yn y Bala) yr wyf yn ofni, i roddi gwaith y B.D. yn waith cyffredin y dosbarthiadau." Mater y dylem ei ystyried yn bwyllog yw hwn. Yr ydym yn mawr lawenhau wrth weled manteision gogoneddus y to presenol o efrydwyr duwinyddol. Ni ddylem ar un cyfrif osod trwch asgell gwibedyn o rwystr ar ffordd ein mytÿrwyr i fod yn weinidogion cymhwys y Testament Newydd. Gwaith da wna pob dyn ieuanc fo wedi cael manteision boreu oes, sy'n gosod ei fryd ar radd, oblegid dyna warant yr oes i ddangos ysgolheigdod. A diau fod y dyn a dybia y gwna dawn, iawn, am ddiffyg gwybodaeth, wedi methu yn druenus ddarllen arwyddion yr amseroedd hyn. Yn fuan iawn bydd yn mhob cynulleidfa ddynion a merched wedi cael addysg dda, ac wedi cael diwyllio eu meddyliau yn yr ysgolion goreu, a chyn y gall y pwlpud helpu y bobl yma, rhaid iddo o leiaf fod yn eu Ievci. Adwaenem bre- gethwr bychan, gonest, a dorodd allan mewn oedfa i gyfaddef ei fod mewn hwyl iawn, i ddyweud, pe buasai ganddo rywbeth i'w ddyweud. Nid oes yr un Uaw-feddyg mor greulon o ffol a mentro at glaf heb ddim